Harddwch

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Lefel 1 mewn Therapi Harddwch yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (EGC)


Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch. Drwy gydol y cymhwyster hwn byddwch yn sicrhau cyfrifoldeb i leihau’r risg i iechyd a diogelwch, paratoi a chynnal ardaloedd gwaith mewn triniaeth salon a chyfrannu at ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol.
Byddwch yn cael eich goruchwylio gan staff a’ch asesu ar eich cymhwysedd.

Bydd eich unedau yn cynnwys nifer o wahanol sgiliau harddwch ymarferol gan gynnwys;

  • Cyflwyniad i’r sector trin gwallt a harddwch
  • Cyflwyno delwedd broffesiynol mewn salon
  • Darparu triniaeth ddwylo sylfaenol
  • Darparu triniaeth draed sylfaenol
  • Gofal croen sylfaenol
  • Rhoi colur sylfaenol
  • Lechyd a diogelwch yn y salon
  • Gweithio gydag eraill yn y sector trin gwallt a harddwch

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi'r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yn dibynnu ar eu llwybr gyrfa dynodedig fel therapydd harddwch a sba iau. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol. Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan staff technegol, ac yn cael eu hasesu ar eu cymhwysedd trwy nifer o ddulliau, gan gynnwys cymhwysedd ymarferol a phortffolio o dystiolaeth.   Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol.

Mae'r meysydd ychwanegol yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:

Llythrennedd a Rhifedd Sgiliau Hanfodol Cymru
Bagloriaeth Cymru - lle byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o feysydd yn cynnwys gweithgareddau menter.


Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflawni profiad gwaith fel rhan o'u cymhwyster llawn amser, a byddant hefyd yn cael cyfle i weithio o fewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu gallu a sgiliau galwedigaethol.  


Yn ychwanegol, bydd disgwyl i ddysgwyr brynu gwisg a chit i ymgymryd â’r cwrs - cost oddeutu £100 - £150

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Salon: £15.00

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

20 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC1F33
L2

Cymhwyster

VTCT Tystysgrif Lefel 1 mewn Therapi Harddwch
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch Lefel 2 a 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Gall myfyrwyr symud ymlaen i NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu Lefel 2 mewn Sgiliau Theatraidd neu Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE