Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu i fenywod sydd â diddordeb mewn atgyweiriadau sylfaenol a gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar geir. Bydd yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar eu cerbydau eu hunain, a’u cyflwyno i’r diwydiant modurol.
Byddwch yn astudio iechyd a diogelwch ynghyd â chynnal a chadw, archwilio ac atgyweiriadau sylfaenol ar gerbydau.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £20.00
Bydd ymgeiswyr angen lefel sylfaenol o Saesneg sy'n cyfateb i TGAU gradd D neu uwch. Bydd angen PPE ar yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys esgidiau blaen traed dur ac oferôls.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.