Atgyweirio Corff ac Ail-orffen Cerbyd (Dechreuwyr)

L1 Lefel 1
Rhan Amser
11 Chwefror 2026 — 18 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

A ydych chi’n frwd dros geir ac yn barod i fynd â’ch sgiliau i’r lefel nesaf? Mae’r cwrs ymarferol hwn yn berffaith i selogion a’r rhai sydd â diddordeb ac sydd eisiau meithrin eu hyder a’u medrusrwydd mewn atgyweirio corff a phaent cerbyd.

Yn gweithio tuag at Ddyfarniad Lefel 1 IMI mewn Atgyweirio Cerbyd ar ôl Damwain, cewch brofiad y byd go iawn mewn amgylchedd gweithdy modern, gan ddefnyddio technegau ac offer safon y diwydiant. O atgyweirio panel, gwaith paratoi i waith paent, byddwch yn dysgu am sylfeini atgyweirio corff ac ail-orffen cerbyd gyda chymorth arbenigol yn ystod pob cam o’r daith.

P’un a ydych yn adnewyddu eich car prosiect eich hun neu’n mynd i’r afael â diddordeb newydd, mae'r cwrs hwn yn cynnig y gymysgedd berffaith o arweiniad pwrpasol, a chipolwg proffesiynol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

L1AM01 – Gweithio’n Ddiogel yn yr Amgylchedd Modurol

Dysgwch am yr arferion iechyd, diogelwch, ac amgylcheddol allweddol sydd eu hangen mewn lleoliad atgyweirio cerbyd. Mae’r uned yn ymdrin â phopeth o weithdrefnau gweithio’n ddiogel i ganfod a rheoli risgiau yn y gweithdy.

L1AM02 – Offer, Cyfarpar a Deunyddiau i Atgyweirio Cerbydau

Ewch ati’n ymarferol gyda’r offer a’r deunyddiau a ddefnyddir mewn atgyweirio ac ail-orffen cerbydau. Byddwch yn magu hyder wrth ddefnyddio ystod o gyfarpar yn gywir ac yn ddiogel, o offer llaw syml i gyfarpar atgyweirio o safon y diwydiant.

L1AR05 – Atgyweirio Corff Cerbyd Sylfaenol

Dysgwch sut i roi technegau atgyweirio corff sylfaenol ar waith, gan gynnwys cael gwared ar dolciau, paratoi paneli, ac adnewyddu arwyneb. Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol a’ch sylw i fanylion.

L1AR11 – Cymhwysiad Paent Sylfaenol a Thechnegau Gorffen

Dysgwch am hanfodion paentio cerbydau, gan gynnwys paratoi arwyneb, cymhwysiad paent preimio, technegau chwistrellu sylfaenol, a chamau terfynol. Mae’r uned hon hefyd yn cynnwys sut i lanhau a chynnal a chadw gynnau chwistrellu, gan sicrhau canlyniadau cyson ac ymestyn oes eich cyfarpar.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £96.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Gofynion mynediad

Cyfleusterau

Profwch ddysgu ymarferol yn ein gweithdy Atgyweirio Cyrff ac Ail-orffen Cerbydau o’r radd flaenaf - sy’n cynnwys y dechnoleg a’r offer safon diwydiant diweddaraf i’ch helpu i feithrin sgiliau’r byd go iawn mewn amgylchedd prysur a phroffesiynol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

11 Chwefror 2026

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

MVCC1P14AA
L1

Cymhwyster

Vehicle Body Repair and Refinishing (Beginners)

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Nid oeddwn yn mwynhau rhyw lawer ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn yr ysgol felly penderfynais wneud cwrs mwy ymarferol. Gwelais fod y staff yn eich trin chi fel oedolyn yma. Dechreuais y cwrs Atgyweirio ac Ailorffen Cerbydau Lefel 1, cyn symud ymlaen i Lefel 2 ac yna ar Brentisiaeth Lefel 3. Mae’r cyfleusterau’n wych yn y Coleg. Mae’r holl offer priodol ar gael yno ac mae’r staff yn wybodus iawn. Bu fy nhiwtoriaid yn gefn i mi ar hyd y ffordd – rhoeson nhw fi mewn cysylltiad â chyflogwyr lleol hyd yn oed, a’m helpu i gael ychydig o brofiad gwaith.

Rwyf wedi dysgu cymaint ac wedi magu cryn dipyn o hyder. Bûm yn cystadlu yn WorldSkills eleni a deuthum yn ail drwy Gymru mewn Ailorffen Cerbydau. Byddaf yn cystadlu yn Rowndiau Terfynol y DU nesaf – rwy’n edrych ymlaen cymaint! Teimlaf fy mod wedi gwneud cymaint o gynnydd ers i mi ddechrau yn y Coleg, ac rwy’n gwybod y gallaf gael gyrfa wych a hyd yn oed busnes fy hun o bosib rhyw ddydd os byddaf yn parhau i wneud fy ngorau glas yn yr hyn rwy’n ei wneud.

Kyle Davin
Cyn-ddysgwr Atgyweirio ac Ailorffen Cerbydau, bellach yn Brentis Lefel 3 yn Love Your Car

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Gall dilyniant i’r cwrs gynnwys astudio Diploma Lefel 1 neu gyrsiau llawn amser Lefel 2.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE