Atgyweirio ac Ailorffen Cyrff Cerbyd (Mynediad)

EL3 Lefel Mynediad 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs Modurol Lefel Mynediad hwn yn gyflwyniad gwych i’r fasnach fodurol, gan ymdrin â phrif agweddau atgyweirio corff cerbydau a phaentio ar lefel dechreuwyr. 
Trwy gydol y cwrs, bydd disgyblion yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth o’r sector mewn gweithdai ac ystafelloedd dosbarth pwrpasol, gan weithio ochr yn ochr â staff cymwys yn y diwydiant a chymryd rhan mewn lleoliadau gwaith amrywiol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cyfuniad o unedau o:

Arferion Iechyd a Diogelwch
Sgiliau Sylfaenol
Datblygiad Cymdeithasol Personol (PSD)
MET (Trim Trydanol Mecanyddol)
Prif Destun
Ail-orffennu
Gwasanaeth Glanhau

Bydd myfyrwyr yn gweithio ar gerbydau go iawn, gan ddefnyddio offer tebyg i’r hyn a ddefnyddir mewn gweithdai atgyweirio garej. 

Gofynion mynediad

Awydd i weithio o fewn y Diwydiant Moduron. Hefyd, bydd angen i ddysgwyr ddarparu eu hesgidiau troed dur eu hunain ac oferôls/siwt boeler.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCCEF01
EL3

Cymhwyster

IMI Entry Level 3 Diploma Introduction to Automotive Maintenance and Repair
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.

Omer Waheed
Atgyweirio Corff Cerbyd Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gwrs Lefel 1 Corff a Phaent cerbydau.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE