Yn poeni bod eich car am fethu ei brawf MOT? Dewch i ymuno â’n cwrs 3 wythnos a dysgwch sut i baratoi eich cerbyd yn union fel person proffesiynol! Bob wythnos, byddwch yn treulio 3 awr yn dysgu’r hyn sy’n digwydd yn ystod prawf MOT, yr hyn y mae archwilwyr yn chwilio amdano, a sut i ganfod a thrwsio problemau cyffredin cyn iddynt ddod yn broblemau costus. P’un a ydych yn yrrwr newydd neu yn fodurwr profiadol, bydd y cwrs hwn yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn eich helpu i gadw eich car yn ddiogel ar y ffyrdd. Arbedwch arian, lleihewch straen, a chymerwch reolaeth o’ch profiad MOT.
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £20.00
Bydd ymgeiswyr angen lefel sylfaenol o Saesneg sy'n cyfateb i TGAU gradd D neu uwch. Bydd angen PPE ar yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys esgidiau blaen traed dur ac oferôls.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyflwyniad i gwrs Mecaneg Cerbydau: astudio arferion iechyd a diogelwch o ran cynnal a chadw cerbydau a chadw trefn dda yn yr amgylchedd modurol.
Byddwch yn cael cyflwyniad i’r diwydiant cynnal a chadw ac atgyweirio modurol, gan ddysgu am offer, cyfarpar a deunyddiau ar gyfer cynnal a chadw cerbydau.