Yn gyffredinol, mae'r Cymhwyster hwn sy'n Gysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) wedi'i dargedu at ddysgwyr 16-19 oed, sydd â diddordeb brwd mewn dysgu am y gwahanol fathau o atgyweirio cerbyd ar ôl damwain a'r gwahanol rolau sydd ar gael yn y diwydiant modur manwerthol.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cyfuniad o unedau o:
Bydd gofyn i ddysgwyr ddewis unedau, sy'n benodol i'w anghenion, ar draws y grwpiau rhestredig i gyflawni'r Diploma hwn.
Mae'r llwybr Aml-Sgiliau ar gyfer Atgyweirio Cerbyd ar ôl Damwain yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ar draws amrywiaeth o feysydd arbenigol, i'w paratoi nhw at astudiaethau pellach i fynd i swydd y dymunant yn y dyfodol
Bydd angen y canlynol arnoch: 5 TGAU Gradd D - F neu Ddiploma Lefel E3 gyda 'Pas' neu radd uwch; Gradd F neu uwch mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg, neu 'Pas' mewn Sgiliau Hanfodol E3 (Cyfathrebu); Gradd F neu uwch mewn TGAU Mathemateg, neu 'Pas' mewn Sgiliau Hanfodol E3 (Rhifedd).
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.”