Archwiliwch a datblygwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau creadigol drwy astudio Diploma Estynedig BTEC mewn Ffotograffiaeth. Byddwch yn ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol gan ddarlithwyr profiadol a thrwy ddefnyddio ein cyfleusterau ffotograffiaeth. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feddwl yn greadigol, sgiliau a datblygu syniadau, a pharatoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth (yn y diwydiannau creadigol).
Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs byddwch yn ennill diploma 540 BTEC, gan astudio'r ddiploma estynedig yn ystod yr ail flwyddyn.
Bydd myfyrwyr yn astudio:
Blwyddyn 1:
Bydd dysgwyr yn astudio un uned,1.Archwilio a Datblygu Sgiliau Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth). Mae'r dysgu'n canolbwyntio ar sgiliau, gwybodaeth a datblygiad creadigol; dadleniad, crefft camera, tynnu llun digidol, ôl-gynhyrchu delwedd, goleuo stiwdio a lleoliad, a delweddaeth arbrofol.
Blwyddyn 2:
Bydd dysgwyr yn astudio dwy uned,1.Archwilio a Datblygu Celf (Ffotograffiaeth), 2. Sgiliau Dylunio - Datblygu Ymarfer Creadigol (Ffotograffiaeth).Asesir y dysgu lefel uwch drwy waith prosiect ffolio, megis ffotograffiaeth ffasiwn, celf ffotograffau, a chyhoeddi.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau technegol a chreadigol drwy broses o werthuso beirniadol, ymarfer a myfyrio. Mae'r rhain oll yn sgiliau allweddol ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd llwyddo neu uwch. Rhaid i chi gyflwyno portffolio o'ch gwaith yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae CAVC yn cynnig llwybr datblygu i addysg uwch drwy astudio'r Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth (wedi'i lleoli yn yr Academi Gelfyddydau). Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r Radd Sylfaen symud ymlaen eto i astudio BA Anrhydedd lawn mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae Diploma Estynedig BTEC mewn Ffotograffiaeth yn darparu'r set eang o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr wedi cymhwyso'n addas ac yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiannau creadigol.