Mae’r cwrs Lefel 2 UAL llawn amser hwn yn canolbwyntio ar Ffotograffiaeth, Graffeg a Dylunio 3D, ac yn galluogi dysgwyr i brofi amrywiaeth o ddeunyddiau, technegau a phrosesau. Dysgir dysgwyr am amrywiaeth o waith a chyfryngau drwy luniadu, dylunio digidol, ffotograffiaeth, a ffabrigiad digidol.
Byddant yn astudio yn ein stiwdios pwrpasol, ystafelloedd cyfrifiaduron, a gweithdai, yn ennill profiad ymarferol yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau. Mae’r cwrs yn cychwyn gyda sgiliau sylfaenol mewn Celf a Dylunio, ac yna prosiectau mewn Graffeg, Ffotograffiaeth, a Dylunio 3D. Y nod yw datblygu gwybodaeth gyd-destunol, yn galluogi dysgwyr i werthfawrogi artistiaid, dylunwyr, a chrefftwyr eraill a darganfod arddulliau a dylanwadau eu hunain.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amryw o ddisgyblaethau, yn cynyddu dealltwriaeth o ddeunyddiau, technegau, a phrosesau’r pwnc drwy aseiniadau a phrosiectau ymarferol.
Byddwch yn astudio ystod o aseiniadau a phrosiectau a all gynnwys:
Byddwch hefyd yn astudio’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol i ddatblygu sgiliau mewn rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol. Mae hwn yn gymhwyster annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl ddysgwyr gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus ynghyd â’u cwrs pwnc.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
4 TGAU graddau D neu uwch gan gynnwys pwnc Celf, Saesneg Iaith a Mathemateg. NEU gymhwyster Lefel 1 mewn Celf a Dylunio i gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd D neu uwch. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o Bortffolio Celf a Dylunio – digidol neu gorfforol – mewn digwyddiad ymgyfarwyddo. Cyfarfod anffurfiol yw hwn gyda thiwtor y cwrs i drafod eich cais ac adolygu eich portffolio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau astudio’r cwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Rwyf wrth fy modd gyda’r pwnc, ac mae’n wych medru ei astudio yn llawn amser. Daeth uchafbwynt fy nghyfnod yma ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, pan ddewiswyd fy ngwaith i gael ei arddangos yn un o orielau gorau Llundain, gan gorff dyfarnu’r cwrs. Roeddwn mor falch o fedru mynd â’r teulu yno i weld yr arddangosfa. Rwy’n edrych ymlaen at gwblhau’r ail flwyddyn, ac yna mynd i’r brifysgol i ddatblygu fy sgiliau ymhellach.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus fynd yn eu blaen i un o’r cyrsiau Lefel 3 Celf a Dylunio perthnasol, megis: