Cyflwyniad i CAD/CAM

L3 Lefel 3
Rhan Amser
8 Mai 2024 — 10 Gorffennaf 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn dilyn sgil greadigol newydd, mae ein cwrs CAD/CAM yn lle gwych i ddechrau er mwyn ennill dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o brosesau a thechnegau digidol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i brosesau gweithgynhyrchu Argraffu 3D a Thorri a Laser, a bydd yn eich galluogi i gymhwyso’r dulliau hun mewn prosiect crefft o’ch dewis chi.

Strwythur y Cwrs

Wythnos 1 - 3: Gweithdai Torri a Laser

Wythnos 4 - 6: Gweithdai Argraffu 3D

Wythnos 7 - 10: Prosiect Crefft o’ch Dewis Chi

Nid oes angen unrhyw wybodaeth neu brofiad blaenorol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn cwblhau prosiect dylunio lle byddwch yn edrych yn fanwl ar gefndir technoleg argraffu 3D, creu syniadau a chysyniadau dylunio, cynhyrchu prototeipiau 3D argraffedig a chyflwyno syniadau creadigol i eraill. Byddwch yn datblygu hyder i gyflwyno a thrafod syniadau dylunio, derbyn adborth adeiladol i gefnogi eich gwaith o ddatblygu dyluniad yn ogystal â’ch sgiliau creadigol.

Ymhlith yr amcanion dysgu allweddol mae:

  • Edrych yn fanwl ar ddeunyddiau, technegau a phrosesau Dylunio 3D
  • Defnyddio deunyddiau, technegau a phrosesau Dylunio 3D o fewn briff
  • Adolygu a myfyrio ar ddeunyddiau, technegau a phrosesau Dylunio 3D


Mae gan yr adran greadigol weithdai a chyfleuster cyfrifiadurol 3D/Celf helaeth.

Gweithdy Dylunio 3D:

  • Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael, yn cynnwys coed, cerdyn, sbwng, plastigau
  • Defnydd o offer a chyfarpar proffesiynol, yn cynnwys cylchlif, bythod chwistrellu, torwyr gwifrau poeth
  • Gwaith cynhyrchu prototeipiau/llunio modelau ar raddfa lawn yn cynnwys argraffwyr 3D MakerBot, torwyr laser, peiriannau CNC

Stiwdio Dylunio 3D:

  • Cyfrifiaduron Mac a Windows
  • Modelu CAD 3D (SolidEdge, Autodesk Meshmixer, Google SketchUp)
  • Adobe Creative Cloud (Photoshop, Illustrator, InDesign)

Cyfleusterau

Mae gan y coleg Weithdy Dylunio a Thechnoleg a chyfleusterau cyfrifiadurol helaeth.

Gweithdy Dylunio a Thechnoleg:

· Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael, gan gynnwys pren, cerdyn, sbwng, plastigau

· Defnydd o offer a chyfarpar proffesiynol, gan gynnwys cylchlif, bythod chwistrellu, torwyr gwifrau poeth.

· Cynhyrchu CAM, gan gynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC a thorwyr finyl.

Stiwdio Ddylunio a Thechnoleg:

• Cyfrifiaduron Mac

• Meddalwedd CAD, gan gynnwys AutoCAD, Fusion 360, Google SketchUp ac Adobe Creative Cloud (Photoshop, Illustrator, InDesign)

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion mynediad

Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn. Gofynnir am bortffolio o waith yn y cyfweliad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Mai 2024

Dyddiad gorffen

10 Gorffennaf 2024

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCC4P02
L3

Cymhwyster

31865H Unit 37 3D Model Making

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE