Dylunio Graffeg

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Datglowch eich potensial creadigol a meistrolwch grefft cyfathrebu gweledol gyda’n cwrs Dylunio Graffig cynhwysol. Wedi’i ddylunio ar gyfer darpar ddylunwyr a dylunwyr proffesiynol fel ei gilydd, mae’r cwrs hwn yn cynnig cymysgedd o wybodaeth theatrig a sgiliau ymarferol, gan sicrhau eich bod yn datblygu sylfaen gadarn ac arbenigedd uwch mewn dylunio graffig.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Sgiliau Sylfaenol: Dechreuwch gyda'r hanfodion, gan gynnwys theori lliw, teipograffiaeth a chyfansoddi. Dewch i ddeall yr egwyddorion sy’n sail i ddylunio gwych, a sut i’w cymhwyso yn effeithiol.

Hyfedredd Meddalwedd: Enillwch brofiad ymarferol gydag adnoddau safon diwydiant fel Adobe Photoshop, Illustrator ac InDesign. Dysgwch lywio’r rhaglenni pwerus hyn a defnyddio eu nodweddion i greu dyluniadau trawiadol.

Prosiectau Creadigol: Gweithiwch ar brosiectau byd go iawn, yn amrywio o ddylunio logo a brandio i ddarluniadau digidol a deunyddiau marchnata. Adeiladwch bortffolio amrywiol sy’n arddangos eich sgiliau a’ch creadigrwydd.

Tueddiadau a Thechnegau Dylunio: Diweddarwch eich hun ar y tueddiadau a’r technegau diweddaraf mewn dylunio graffeg.

Asesu ac Adborth: Cymerwch ran mewn adolygiadau cyfoedion a derbyniwch adborth adeiladol gan hyfforddwyr profiadol. Dysgwch i asesu eich gwaith a gwaith eraill er mwyn gwella eich proses ddylunio.

Datblygiad Gyrfa: Enillwch fewnwelediadau i'r diwydiant dylunio graffig, gan gynnwys strategaethau chwilio am swyddi, cynghorion gwaith llawrydd a datblygiad portffolio. Paratowch ar gyfer gyrfa lwyddiannus gyda’n harweiniad proffesiynol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion mynediad

5 TGAU A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu wedi cwblhau Diploma Atodol BTEC mewn Dylunio Graffeg. Rhaid ichi gyflwyno portffolio o waith yn ystod eich cyfweliad.

Cyfleusterau

  • Apple mac suite ymroddedig a chyfleusterau argraffu ar raddfa fawr.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CDCC3F13
L3

Cymhwyster

Graphic Design

Mwy

Gwaith Myfyrwyr

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Roedd y dysgu’n wych ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda iawn. Roedd yna diwtora un i un ar gael bob amser ac roeddwn wir angen hynny pan oeddwn yn teimlo’n ddihyder. Roedd cyfleusterau’r coleg yn rhagorol, bob blwyddyn roedd gennym dechnoleg ac offer newydd y gallem eu harchwilio, ac roeddwn i’n teimlo bod fy sgiliau wir yn datblygu trwy hynny.

Aaron Leslie
Cyn-fyfyriwr y cwrs Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaet

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE