Ffotograffiaeth Ddigidol

L1 Lefel 1
Rhan Amser
26 Hydref 2025 — 26 Hydref 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Ar y cwrs undydd hwn, sydd wedi'i fwriadu ar gyfer dechreuwyr, byddwch yn dysgu sut i gymryd rheolaeth o'ch camera ac ennill y sgiliau a'r wybodaeth er mwyn eich galluogi i wella eich ffotograffiaeth - gyda chynghorion, cyngor a strategaethau gan diwtor Ffotograffiaeth profiadol, gyda'r nod o'ch cynorthwyo i dynnu lluniau gwych.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o ffwythiannau a gosodiadau camera digidol, gan gynnwys modd â llaw a rhannol awtomatig.

Wedi i chi ddysgu'r theori sylfaenol, byddwch wedyn yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol.
Wedi i chi gwblhau'r tasgau ymarferol, byddwch wedyn yn dysgu sut i drosglwyddo eich delweddau i gyfrifiadur a sut i roi rhai tasgau golygu sylfaenol ar waith.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Y pynciau ffotograffiaeth sylfaenol sy'n cael eu cynnwys yw:

  • Defnyddio amrywiaeth o ffwythiannau a gosodiadau camera digidol, gan gynnwys modd â llaw a rhannol awtomatig, er mwyn goleuo, ffocysu a chyflunio ffotograffau digidol mewn amrywiaeth o genres.
  • Ymgymryd â gweithgareddau ymarferol; defnyddio eich camera digidol er mwyn cymryd ffotograffau gan ddefnyddio gwahanol fathau o ffeiliau.
  • Trosglwyddo delweddau i gyfrifiadur ac ymgymryd â rhai tasgau golygu gan gynnwys: cropio, cywiro lliw, cywiro optegol, a phrosesu delweddau i chwaeth/gofynion personol.

Cyfleusterau

Byddwch yn cael mynediad at gyfrifiadur a meddalwedd golygu pwrpasol.

Cewch eich darparu gydag adnoddau electronig er mwyn gwella eich profiad dysgu a'ch atgoffa o'r wybodaeth a ddysgwyd.

Dulliau addysgu ac asesu

Bydd dysgwyr yn cynhyrchu portffolio electroneg er mwyn darparu tystiolaeth eu bod wedi cwblhau'r cwrs.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £15.00

Gofynion mynediad

Diddordeb mewn ffotograffiaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion ffotograffiaeth a defnyddio camerâu a/neu  yn ddelfrydol, wedi cwblhau Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol ar Lefel 1.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

26 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

26 Hydref 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

GELL1S01
L1

Cymhwyster

Level 1 Phototography

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i Lefel 1: Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE