Modelu a Ffabrigiad Digidol

L3 Lefel 3
Rhan Amser
28 Ebrill 2025 — 7 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn datblygu sgiliau creadigol a thechnegol newydd, mae ein cwrs Modelu a Ffabrigiad Digidol yn gychwyn gwych i fagu dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o dechnegau a phrosesau digidol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddetholiad o brosesau ffabrigiad, a bydd yn eich galluogi i gymhwyso’r dulliau hun mewn nifer o weithgareddau gweithdy ac mewn prosiect crefft o’ch dewis chi.

Strwythur y Cwrs:

Wythnos 1-2: Modelu Digidol
Wythnos 3: Argraffu 3D
Wythnos 4: Torri gyda Laser
Wythnos 5: Torwyr Dei (gyda Cricut)
Wythnos 6: Brodwaith Digidol
Wythnos 7-10: Prosiect Crefft o’ch Dewis Chi

I wneud ymholiadau sy’n ymwneud â’r cwrs y benodol, cysylltwch â: Aaron Leslie (aleslie@cavc.ac.uk)

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ffabrigiad digidol yw'r broses o gynhyrchu gwrthrychau ffisegol yn uniongyrchol o ddyluniadau digidol gan ddefnyddio peiriannau a reolir gan gyfrifiaduron. Mae'r dechnoleg hon yn cynnwys ystod o dechnegau ac offer sy’n galluogi gweithgynhyrchu a phrototeipiau manwl gywir o gynnyrch a strwythurau cymhleth.

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o bynciau, gan gynnwys:

Archwilio deunyddiau, technegau a phrosesau dylunio 3D

Defnyddio deunyddiau, technegau a phrosesau dylunio 3D o fewn briff

Adolygu a myfyrio ar ddeunyddiau, technegau a phrosesau dylunio 3D. 

Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob sesiwn o fewn portffolio digidol.

Cyfleusterau

Mae gan y coleg gyfleusterau helaeth mewn Celf, Dylunio a graffeg, megis:

Gweithdy Meinciau:

  • Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael, gan gynnwys pren, cerdyn, sbwng, plastigau
  • Defnydd o offer a chyfarpar proffesiynol, gan gynnwys cylchlif, bythod chwistrellu, torwyr gwifrau poeth.
  • Cynhyrchiadau ffabrigiadau yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC a thorwyr dei.

 
Ystafelloedd Cyfrifiaduron:

  • Cyfrifiaduron Mac
  • Meddalwedd modelu digidol megis AutoCAD, Fusion 360, Google SketchUp ac Adobe Creative Cloud (Photoshop, Illustrator, InDesign)

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £65.00

Gofynion mynediad

Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn. Gofynnir am bortffolio o waith yn y cyfweliad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

28 Ebrill 2025

Dyddiad gorffen

7 Gorffennaf 2025

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCC4P02
L3

Cymhwyster

31865H Unit 37 3D Model Making

Mwy...

Astudiaeth Achos Myfyriwr

Roedd y cwrs yn berffaith i mi; Roeddwn eisiau cael mewnwelediad i’r gwahanol brosesau er mwyn gweld a fyddai unrhyw un ohonynt yn gallu ffitio i mewn i fy musnes. Roedd y tiwtor yn wych, ac yn amyneddgar a gwybodus, mor dda fel fy mod yn ystyried cofrestru ar gyfer cyrsiau mewn argraffu 3D.

Leon Robertson
Dysgwr Rhan Amser

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE