Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn gwrs cyffrous ac arloesol sy'n archwilio disgyblaethau fel cerameg, tecstilau, dylunio graffig, argraffu, celfyddyd gain a deunyddiau 3D fel gwifren, plastr, gwneud gemwaith ayyb.
Mae'r Cwrs wedi'i gefnogi gan Brifysgol Celf, Llundain sydd ag enw da fel prifysgol o'r radd flaenaf ac a restrwyd yn 2il yn y byd ar gyfer Celf a Dylunio yn Safleoedd Prifysgol y Byd QS 2021.
Wrth astudio gyda ni byddwch yn cael defnyddio stiwdios arbenigol lle cewch eich annog i archwilio deunyddiau a thechnegau. Byddwch yn gallu defnyddio’r Parth Dysgu sy’n stocio ystod wych o gyfnodolion a llyfrau celfyddydau gweledol cyfredol yn ogystal â chael defnyddio cynnwys ar-lein a bydd hyn yn helpu i gefnogi eich dysgu a’ch datblygiad.
Bydd eich cwrs hefyd yn eich tywys i fyd celf a dylunio cyfoes a’r modd yr ydych chi’n ffitio fel rhan o hynny. Byddwch yn archwilio pwy ydych chi fel ymarferydd a sut mae eich gwaith yn ychwanegu at y naratif gweledol cyfredol.
Y Diploma Lefel 3 yw Blwyddyn gyntaf cwrs 2 Flynedd sydd wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi symud ymlaen i astudio lefel gradd mewn celf a dylunio neu i gyflogaeth o fewn y Diwydiannau Creadigol. Mae cwblhau Blwyddyn 1 yn rhoi Diploma mewn Celf a Dylunio i chi ar Lefel 3 ac mae'n gyfwerth ag 1.5 Safon Uwch. Mae cwblhau Blwyddyn 2 yn rhoi Diploma Estynedig i chi mewn Celf a Dylunio ar Lefel 3 ac mae'n gyfwerth â 3 Safon Uwch.
Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn astudio'r canlynol:
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU A*-C, gan gynnwys Iaith Saesneg neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Sylwer y gofynnir am waith portffolio yn ystod eich galwad sgrinio gychwynnol felly mae’n rhaid i chi gael y rhain yn barod cyn gwneud cais. Rhaid i bob portffolio gynnwys 10-12 delwedd o gynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Uchafbwynt y cwrs i mi oedd dysgu sut i wnïo a gallu archwilio’r holl themâu roeddwn yn dymuno eu defnyddio a chynhyrchu prosiect cowboi cwˆl. Ar ôl gadael y coleg, fy mwriad yw mynd i Brifysgol Brighton i astudio dylunio ffasiwn ac astudiaethau busnes, gyda’r gobaith o fynd ymlaen i fod yn berchennog siop. Rhoddodd y cwrs gyfle i mi ddod o hyd i fy arbenigedd, a gyda chefnogaeth y tiwtoriaid, roeddwn yn gallu dysgu a mireinio fy sgiliau.
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y dewis o ychwanegu at eu cymhwyster i Diploma Estynedig BTEC mewn Celf, Crefft a Dylunio. Mae’r Coleg hefyd yn cynnig amrywiaeth o Raddau Sylfaen, wedi eu hachredu gan Brifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd, sy'n golygu unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cwrs, gallwch ddewis dychwelyd i'r coleg a chael cymhwyster Prifysgol yno, yn hytrach na mynd i’r Brifysgol. I gael gwybod mwy am ein detholiad o Raddau Sylfaen, dilynwch y ddolen: www.cavc.ac.uk/cy/he