Celf a Dylunio

L1 Lefel 1
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

A hoffech chi ddatblygu eich talent mewn celf, dylunio neu amlgyfryngau a hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant creadigol? Os felly, rydych chi wedi dod i’r lle iawn! Anelir y cwrs hwn ddarparu rhaglen heriol a hyblyg o astudio yn berthnasol i'r sector creadigol. Yn astudio yn ein stiwdios a chyfleusterau penodedig ar Gampws y Barri, bydd y rhaglen hon yn archwilio ystod eang o gyfryngau a thechnegau yn cynnwys dylunio 3D, cerameg, tecstilau, cyfathrebu graffig, ffotograffiaeth ddigidol a pheintio. Trwy gydol y cwrs, byddwn yn datblygu sgiliau personol a chyflogadwyedd trwy ystod eang o unedau. Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n llwyddiannus yn y rhaglen hon hefyd ddisgwyl mynd ymlaen i un o’r cyrsiau Lefel 2 Celf a Dylunio a geir yn y coleg, a fydd yn rhoi hwb arall i'w cyfleoedd o fynd ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio pynciau yn cynnwys:

  • Dylunio 3D
  • Cyfryngau Cymysg – Cerameg / Tecstilau / Cyfathrebu Graffig
  • Ffotograffiaeth Ddigidol
  • Peintio
  • Archwilio sgiliau dylunio ar gyfer celfyddydau perfformio

Sgiliau Hanfodol: Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a TGCh.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

DMCR1F01
L1

Cymhwyster

Art and Design

Mwy

Fideos

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Wedi cwblhau’r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i Ddiploma Gyntaf Lefel 2 mewn Celf a Dylunio.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ