Mae'r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio lefel 3 yn cynnig cyfle rhagorol i fyfyrwyr ddatblygu a chyfoethogi arferion celf a dylunio presennol i baratoi at astudio cyrsiau gradd ar draws y cyfryngau gweledol. Ceir pwynt cychwyn diagnostig sy'n arwain at astudiaeth arbenigol o'ch dewis, o blith Celfyddyd Gain, 3D, Cyfathrebu Graffigol, Ffasiwn/Tecstilau. Caiff yr holl fyfyrwyr ddefnyddio gofod stiwdio personol ac arbenigol mewn meysydd fel cerameg, 3D, ffotograffiaeth a chreu printiau yn ein Hacademi Celfyddydau Creadigol dynodedig – paradwys yr artist ar ein Campws Canol y Ddinas. Dyma gwrs deinamig a chyflym ei natur a fydd yn eich helpu i ddatblygu a chreu portffolio o waith. Bydd hefyd yn eich paratoi i ddatblygu mewn amrywiaeth eang o bosibiliadau creadigol, gyda nifer fawr o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio mewn prifysgolion ag enw da, ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig.
Mae angen i bob myfyriwr fod dros 18 oed i wneud cais.
Rhoddir y pwyntiau UCAS canlynol i ddysgwyr sydd wedi bodloni gofynion y cymhwyster hwn: Rhagoriaeth 112, Teilyngdod 96, Llwyddo 80.
Ceir 6 uned astudio, a'u nod yw galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus yn y meysydd creadigol gweledol mewn addysg uwch neu ym myd gwaith. Byddwch yn cael cyflwyniad i amrywiaeth o ddeunyddiau a dulliau gweithio er mwyn ymchwilio a datblygu eich syniadau, eich dysgu a'r ffordd rydych yn gwerthuso a myfyrio ar eich cynnydd. Yn ystod y cwrs sylfaen, rydym yn annog uchelgais, agwedd archwiliol, dadansoddi ymarfer yn feirniadol a'r gallu i feddwl am syniadau gwahanol i'r arfer.
I wneud cais, mae angen i bob myfyriwr fod dros 18 oed erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y byddant yn cychwyn.
Rhoddir y pwyntiau UCAS canlynol i ddysgwyr sydd wedi bodloni gofynion y cymhwyster hwn: Rhagoriaeth 112, Teilyngdod 96, Llwyddo 80.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg AC 1 x Lefel UG ac yn gweithio tuag at Safon Uwch llawn NEU BTEC Lefel 3 Diploma Estynedig neu NVQ Lefel 3. Profiad perthnasol yn ystod cyflogaeth. Bydd gofyn i chi gyflwyno portffolio o waith yn ystod eich cyfweliad. Mae’n rhaid i chi fod yn 18+ mlwydd oed.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gall dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau Graddau Sylfaen CAVC gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i: