Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn dysgu sgiliau creadigol a thechnegol newydd, bydd ein cwrs Gweithgynhyrchu haen-ar-haen yn ddechrau gwych i gael dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o’r broses argraffu 3D. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i brosesau argraffu 3D, gan gynwys Modelu Dyddodiad Ymdoddedig (FDM) a Stereolithograffeg (SLA), y fydd yn eich galluogi i gymhwyso’r dulliau hun i nifer o weithgareddau gweithdy ac mewn prosiect crefft o’ch dewis chi.
Strwythur y Cwrs:
Wythnos 1 - 2: Modelu Digidol
Wythnos 3 - 4: Argraffu FDM
Wythnos 5 - 6: Argraffu SLA
Wythnos 7 - 10: Prosiect Crefft o’ch Dewis Chi
I wneud ymholiadau sy’n ymwneud â’r cwrs y benodol, cysylltwch â: Aaron Leslie (aleslie@cavc.ac.uk)
Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o bynciau, gan gynnwys:
• Deall prosesau a defnyddiau argraffwyr 3D.
• Gallu perthnasu lluniau 2D i fodelau 3D rhithiol.
• Gallu datblygu cysyniad 2D i arteffact 3D gan ddefnyddio meddalwedd argraffu ac offer caledwedd addas.
• Gallu gwerthuso’r broses argraffu 3D.
Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob sesiwn o fewn portffolio digidol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £45.00
Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol i gofrestru ar y cwrs hwn.
Mae gan y coleg gyfleusterau helaeth mewn Celf, Dylunio a Graffeg megis:
Gweithdy meinciau:
• Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael, gan gynnwys pren, cerdyn, sbwng, plastigau
• Defnydd o offer a chyfarpar proffesiynol, gan gynnwys cylchlif, bythod chwistrellu, torwyr gwifrau poeth.
• Prosesau ffabrigiadau gan gynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC a thorwyr dei.
Ystafelloedd Cyfrifiaduron:
• Cyfrifiaduron Mac
• Meddalwedd modelu digidol gan gynnwys AutoCAD, Fusion 360, Google SketchUp ac Adobe Creative Cloud (Photoshop, Illustrator, InDesign)
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen un ai i’n:
Cyrsiau Rhan-amser: