Ffabrigo a Modelu Digidol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
12 Ionawr 2027 — 2 Mawrth 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Bwriad y cwrs 7 wythnos hwn yw cyflwyno dysgwyr i’r prosesau a’r technegau sy’n cael eu defnyddio mewn ffabrigo digidol i ddarparu dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o greu a dylunio digidol. Mae ffabrigo digidol yn cynnwys creu gwrthrychau yn uniongyrchol o ddyluniadau CAD gan ddefnyddio peiriannau sy’n cael eu rheoli gan gyfrifiadur. Mae’r dechnoleg hon yn cynnwys ystod o offer a dulliau sy’n galluogi prototeipio a gweithgynhyrchu manwl gywir ar gyfer cynnyrch a strwythurau cymhleth.

Bydd gweithdai wythnosol yn rhan o’r cwrs lle y bydd dysgwyr yn edrych ar y technegau ac yn eu defnyddio mewn gweithgareddau ymarferol. Mae hyn yn cynnwys Argraffu 3D, Torri Laser, Torri Digidol a Brodwaith Digidol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o ddeilliannau dysgu:

  • Defnyddio geometreg i greu dyluniad. 
  • Defnyddio gorchmynion/swyddogaethau i drin ac addasu geometreg. 
  • Ychwanegu dimensiynau a thestun yn y gosodiad. 
  • Gosod haenau i swyddogaethau. 
  • Cadw a storio darluniadau.
  • Rhannu darluniadau â phobl berthnasol.

Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob gweithdy mewn llyfr gwaith digidol.

Cyfleusterau

Mae gan y coleg weithdai Celf a Dylunio a chyfleusterau cyfrifiadur helaeth.

Mae lleoedd Celf Arbenigol yn cynnwys Celf Gain, Cerameg, Gwneud Printiau a Ffasiwn a Thecstiliau.

Hefyd, Ffabrigo Digidol yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC, torwyr finyl a brodwaith digidol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £20.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £70.00

Gofynion mynediad

Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn. Gofynnir am bortffolio o waith yn y cyfweliad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

12 Ionawr 2027

Dyddiad gorffen

2 Mawrth 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CDCC2P14
L2

Cymhwyster

Digital Modelling and Fabrication

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen un ai i’n Cyrsiau Rhan-amser:

  • Celf, Crefft a Dylunio (2D) Lefel 2
  • Celf, Crefft a Dylunio (3D) Lefel 2
  • Gweithgynhyrchu Haen-Ar-Haen (Argraffu 3D) Lefel 3 
  • Dylunio Graffeg ar gyfer Cynnyrch Argraffedig Lefel 3
  • Celf Tecstilau Lefel 2

neu Gyrsiau Llawn Amser:

  • Cyfryngau Cymysg Lefel 2
  • Celf a Dylunio Lefel 3
  • Celf a Dylunio Sylfaen 
  • Dylunio Ffasiwn Lefel 3
  • Dylunio Graffeg Lefel 3
  • Dylunio Cynnyrch Lefel 3

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE