Gweithgynhyrchu Ychwanegion (Argraffu 3D)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
14 Ebrill 2026 — 23 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn ceisio sgiliau technegol a chreadigol newydd, mae ein cwrs Gweithgynhyrchu Ychwanegion yn fan cychwyn gwych i ennill dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o’r broses argraffu 3D. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddulliau argraffu 3D, gan gynnwys modelu dyddodiad ymdoddedig (FDM) a stereolithograffeg (SLA), gan eich galluogi i gymhwyso’r dulliau hyn i nifer o weithgareddau gweithdai a phrosiect crefft o’ch dewis. Strwythur y Cwrs: Wythnos 1-2: Modelu Digidol Wythnos 3-4: Argraffu FDM Wythnos 5-6: Argraffu SLA Wythnos 7-10: Prosiect Crefft o’ch Dewis

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • Deall cymwysiadau a phrosesau argraffu 3D.
  • Gallu newid delweddau 2D i fodelau 3D rhithiol.
  • Gallu datblygu cysyniad 2D i arteffact 3D gan ddefnyddio offer caledwedd a meddalwedd argraffu priodol
  • Gallu gwerthuso’r broses argraffu 3D.

Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob sesiwn mewn portffolio digidol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £95.00

Cyfleusterau

Mae gan y coleg gyfleusterau Celf, Dylunio a Graffeg eang, gan gynnwys: Gweithdy Meinciau: · Amryw o ddeunyddiau gan gynnwys pren, cerdyn, sbwng a phlastig ar gael · Defnydd o gyfarpar ac offer proffesiynol sy’n cynnwys cylchlifiau, bythau chwistrellu, torwyr gwifrau poeth. · Cynhyrchu ffabrigiadau gan gynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC a thorwyr dei. Ystafelloedd Cyfrifiaduron: • Cyfrifiaduron Mac • Meddalwedd modelu digidol gan gynnwys AutoCAD, Fusion 360, Google SketchUp ac Adobe Creative Cloud (Photoshop, Illustrator, InDesign).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

14 Ebrill 2026

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCC3P12
L3

Cymhwyster

Additive Manufacturing (3D Printing)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen un ai i’n: Cyrsiau Rhan-amser: Ffabrigo a Modelu Digidol Lefel 3 Llunio a Darlunio Lefel 3 neu Gyrsiau Llawn Amser: Celf a Dylunio Lefel 2 Celf a Dylunio Lefel 3 Celf a Dylunio Sylfaen Dylunio Ffasiwn Lefel 3 Dylunio Graffeg Lefel 3 Dylunio Cynnyrch Lefel 3

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE