Cymraeg Iaith - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r Lefel UG  hwn i'w sefyll o fewn rhaglen Safon Uwch lawn amser ar gyfer myfyrwyr yn dymuno dilyn ymlaen o gymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae 3 Uned i'w cwmpasu yn ystod y flwyddyn UG

Uned 1: Arholiad Llafar

Bydd Adran A yn cwmpasu'r pwnc Trafod Ffilm

Bydd Adran B yn ymdrin ag Ymateb Personol

Uned 2: Asesiad Di-arholiad

Yn cynnwys ysgrifennu 3 darn estynedig, yn dod i gyfanswm o 1500-2000 o eiriau ar destunau yn cynnwys:

  • Ardal arbennig o Gymru
  • Mater cymdeithasol
  • Mater diwylliannol
  • Mater galwedigaethol
  • Pwnc hanesyddol
  • Mater gwleidyddol

Dylai'r 3 darn gael eu cyflwyno drwy 3 o'r ffurfiau canlynol;

  • Adroddiad/erthygl
  • Portread
  • Stori
  • Sgwrs/cyfweliad
  • Llythyr
  • Blog
  • Dyddiadur

Uned 3: Defnydd o Iaith a Barddoniaeth

Adran A: Cwestiwn cyfansawdd sy'n cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol

Adran B: 3 chwestiwn yn seiliedig ar destunau wedi eu rhagnodi

  • Iwan Rhys: Caerdydd
  • Grahame Davies: Lerpwl
  • Gwion Hallam: Dim ond serch
  • Myrddin ap Dafydd: Twyll
  • Tudur Dylan Jones: Newyddion

Dulliau addysgu ac asesu:

Uned 1: Arholiad Llafar - 15% o'r Safon Uwch

Uned 2: Asesiad Di-arholiad - Gwaith cwrs 10% o'r Safon Uwch

Uned 3: Defnydd o Iaith a Barddoniaeth -  Papur ysgrifenedig 15% o'r Safon Uwch

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: C neu TGAU Cymraeg

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F40
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Cymraeg Ail Iaith

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Dilyniant ymlaen i flwyddyn A2 o'r Gymraeg fel Ail Iaith.

Y tu hwnt i gymhwyster A2, mae hwn yn bwnc addas i unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno astudio Cymru neu'r Iaith Gymraeg mewn Prifysgol, yn ogystal â nifer o bynciau dyniaethau a gwyddor gymdeithasol yn cynnwys Hanes, Daearyddiaeth, Gwleidyddiaeth a'r Cyfryngau. Bydd y cymhwyster hwn hefyd yn cefnogi’r rheiny sy'n ceisio lle ar gwrs Prifysgol cyfrwng Cymraeg.

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE