Sbaeneg - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs astudiaeth blwyddyn yw’r rhaglen UG Sbaeneg, sy’n addas i fyfyrwyr sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth bresennol o’r Sbaeneg, gan ddatblygu’r pedair crefft - siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Cynhelir y cwrs ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, a bydd y cwrs yn rhoi cipolwg ar agweddau diwylliannol gwledydd lle siaredir Sbaeneg, yn ogystal â rhoi’r cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio materion cyfoes. Yn ychwanegol, caiff dysgwyr fynediad at ystod o adnoddau aml-gyfrwng a TG, a bydd cyfle i ddatblygu sgiliau llafar gyda siaradwyr Sbaeneg.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs yn cynnwys y meysydd pwnc canlynol: 


Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas lle siaredir Sbaeneg:

  • Strwythurau teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch/perthnasoedd
  • Tueddiadau, problemau a hunaniaeth bersonol ieuenctid
  • Cyfleoedd addysgol a chyflogaeth


Deall y byd cyfrwng Sbaeneg

  • Treftadaeth a diwylliant rhanbarthol yn Sbaen, gwledydd a chymunedau cyfrwng Sbaeneg
  • Llenyddiaeth, celf, ffilm, a cherddoriaeth yn y byd cyfrwng Sbaeneg

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad

Gofynion mynediad

TGAU Sbaeneg

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F62
L3

Cymhwyster

Spanish - AS

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Hanes
  • Y Gyfraith
  • Ieithoedd
  • Sbaeneg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE