Sbaeneg - UG

L3 Lefel 3
Rhan Amser
3 Medi 2025 — 28 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i: cavc.ac.uk/cy/parttimefunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r rhaglen Safon UG Sbaeneg yn gwrs astudio un flwyddyn ac yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno hybu eu gwybodaeth gyfredol o Sbaeneg, gan ddatblygu’r pedair sgil - siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y cwrs hwn yn darparu mewnwelediad i agweddau diwylliannol gwledydd ble siaredir Sbaeneg, yn ogystal â darparu’r cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio materion cyfoes. Yn ogystal, bydd gan ddysgwyr fynediad at amrywiaeth o adnoddau amlgyfrwng a TG, a bydd cyfle i ddatblygu sgiliau llafar gyda siaradwyr Sbaeneg brodorol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu'r meysydd pynciau canlynol:

  • Hamdden a Ffordd o Fyw

Mae hyn yn cynnwys: teithio a thwristiaeth, chwaraeon, hobïau, adloniant, arferion, traddodiadau, byw’n iach (iechyd a maeth, diet ac ymarfer corff), byw’n afiach (cyffuriau, AIDS, ysmygu, alcohol ac ati).

  • Yr Unigolyn a Chymdeithas

Mae hyn yn cynnwys: perthnasau a chyfrifoldebau, materion rhywedd, diwylliant ieuenctid (gwerthoedd, grwpiau cyfoedion, ffasiwn a thueddiadau ac ati), addysg, hyfforddiant galwedigaethol a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Asesir y rhaglen hon trwy arholiad yn cwmpasu pedair sgil iaith siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Bydd myfyrwyr yn sefyll dau arholiad - SN1 (llafar) ac SN2 (gwrando, darllen ac ysgrifennu).

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £60.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00

Ffi Cwrs: £473.00

Gofynion mynediad

Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C i gynnwys Saesneg a Sbaeneg (ffafrir Sbaeneg ar Radd B neu uwch). Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.

Amseroedd cwrs

17:45-20:45 Dydd Mawrth

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i: cavc.ac.uk/cy/parttimefunding

Cod y cwrs

ASCC3E07
L3

Cymhwyster

Spanish - AS

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Hanes
  • Y Gyfraith
  • Ieithoedd
  • Sbaeneg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE