Sbaeneg – A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2024 — 21 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Safon Uwch mewn Sbaeneg yn gymhwyster i ddysgwyr ôl-16 sy’n dymuno parhau â’u haddysg Iaith Sbaeneg drwy ddysgu cymhwysol ac ymarferol, ac sy’n anelu at wella eu sgiliau ieithyddol Sbaeneg fel iaith ychwanegol. Gall myfyrwyr ddisgwyl i’r cwrs ddarparu Addysgu a Dysgu sydd wedi’u hanelu at wella gwybodaeth am iaith a diwylliant Sbaeneg.

Mae’r cwrs wedi’i leoli yng nghampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn datblygu rhuglder yn yr Iaith Sbaeneg, neu i ddysgwyr sy’n dymuno astudio ieithoedd/cyrsiau ieithyddol yn y brifysgol, neu unrhyw bwnc yn ymwneud â hanes a diwylliant Sbaeneg, e.e. Hanes, gwleidyddiaeth ac ati.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Unedau astudio yn yr ail flwyddyn:

  • A2 Uned 3: Llafar

    Asesiad heb arholiad: 11-12 munud

    18% o’r cymhwyster

    Prosiect ymchwil annibynnol

    (a) Cyflwyniad o’r prosiect ymchwil annibynnol (2 funud)

    (b) Trafodaeth ynghylch cynnwys y prosiect ymchwil annibynnol (9-10 munud)

  • A2 Uned 4: Gwrando, darllen a chyfieithu

    Arholiad ysgrifenedig: 2 awr

    30% o’r cymhwyster

    Adran A: Gwrando

    Adran B: Darllen

    Adran C: Cyfieithu – o Saesneg/Cymraeg i Sbaeneg

    Ni chaniateir i wrandawyr ddefnyddio geiriaduron yn unrhyw ran o’r asesiad.

  • A2 Uned 5: Ymateb critigol a dadansoddol ysgrifenedig

(llyfr caeedig)

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud

12% o’r cymhwyster

Un cwestiwn traethawd - yn seiliedig ar astudiaeth o un darn o waith llenyddol oddi ar y rhestr a nodir

Addysgu ac Asesu

Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.

Asesiad Mewnol

Bydd Asesiad Llafar yn cael ei recordio a’i asesu’n fewnol gan y darlithydd. Bydd y recordiad wedyn yn cael ei anfon at y bwrdd arholi i’w gymedroli.

Asesiad Allanol

Ceir arholiad ysgrifenedig llyfr caeedig ac asesiad gwrando gydag ymateb ysgrifenedig a fydd yn cael eu hasesu’n allanol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F62
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Sbaeneg

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Ieithoedd 
  • Cyrsiau ieithyddol 
  • Cyfieithu 
  • Cyfathrebu 
  • a chyrsiau sy’n cynnwys blwyddyn dramor mewn Prifysgol

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE