Astudiaethau Crefyddol - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Astudiaethau Crefyddol Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Astudir pob un o’r pynciau ar y cwrs hwn o safbwynt myfyriol ac athronyddol, a rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i archwilio, trin a thrafod amrywiaeth o gredoau a materion.

Nodau'r cwrs:

Nid oes angen unrhyw ddealltwriaeth flaenorol o'r pwnc, sydd â’r nodau o:

  • Ddatblygu diddordeb a brwdfrydedd tuag at astudio crefydd a'i effaith ar gymdeithas
  • Trin y pwnc fel disgyblaeth academaidd
  • Annog ymholiad i natur crefydd trwy sgwrs, trafodaeth a darllen helaeth

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:

Uned 1: Cyflwyniad i Astudio Cristnogaeth

Bydd myfyrwyr yn archwilio:

  • Genedigaeth ac atgyfodiad Iesu Grist
  • Y Beibl fel ffynhonnell doethineb ac awdurdod.
  • Natur Duw a’r Drindod
  • Theorïau cymodi
  • Rolau ffydd a gweithredoedd
  • Credwyr a’r eglwys
  • Egwyddorion moesol allweddol.
  • Hunaniaeth trwy fedyddio
  • Ewcharist, Nadolig a’r Pasg

Uned 2: Cyflwyniad i Foeseg ac Athroniaeth Crefydd

Archwilio Athroniaeth Crefydd

  • Y dadleuon cosmolegol, teleolegol a chasgliadol parthed bodolaeth (neu beidio) Duw
  • Tarddiad, datblygiadau a heriau i'r ddadl ontolegol am Dduw
  • Problem drwg ac ymatebion crefyddol i hyn
  • Profiadau crefyddol; cyfriniol; profiadau crefyddol heriol

Archwilio Moeseg Crefydd

  • Syniadau Moesol trwy'r Theori Gorchymyn Ddwyfol, Theori Rhinwedd ac Egoistiaeth Foesol
  • Cyfraith Naturiol Aquinas a’i gymhwysiad i Erthylu ac Ewthanasia
  • Moeseg Sefyllfa a’i gymhwysiad i berthnasau cyfunrywiol a lluosog
  • Iwtilitariaeth a’i gymhwysiad i arbrofi ar anifeiliaid ac arfau niwclear

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F18
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Astudiaethau Crefyddol

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Gwareiddiad Clasurol
  • Daearyddiaeth
  • Hanes
  • Y Gyfraith
  • Athroniaeth
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Cymdeithaseg
  • Diwinyddiaeth 

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE