Astudiaethau Crefyddol - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Astudiaethau Crefyddol A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Astudir pob un o’r pynciau ar y cwrs hwn o safbwynt myfyriol ac athronyddol, a rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i archwilio, trin a thrafod amrywiaeth o gredoau a materion.
Nodau'r cwrs:
Nid oes angen unrhyw ddealltwriaeth flaenorol o'r pwnc, sydd â’r nodau o:
- Ddatblygu diddordeb a brwdfrydedd tuag at astudio crefydd a'i effaith ar gymdeithas
- Trin y pwnc fel disgyblaeth academaidd
- Annog ymholiad i natur crefydd trwy sgwrs, trafodaeth a darllen helaeth
Beth fyddwch yn ei astudio?
Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:
Uned 4: Crefydd a Moeseg
Bydd myfyrwyr yn archwilio:
- Syniadau Moesegol trwy Naturoliaeth, Sythwelediaeth ac Emosiynaeth
- Moeseg Ddeontolegol trwy Ddeddf Naturiol, Cyfranoliaeth a’u cymhwysiad i fewnfudo a chosb eithaf
- Penderfyniaeth trwy Awstin Sant a John Calvin
- Ewyllys Rhydd o Pelagius, Arminius a rhyddewyllysiaeth Uned 5: Athroniaeth Crefydd
Bydd myfyrwyr yn archwilio:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o grefydd a chred trwy Freud a Jung
- Profiadau Crefyddol - Gwyrthiau
- Iaith Grefyddol a phositifiaeth resymegol
- Iaith Grefyddol fel gêm symbolaidd, fytholegol ac iaith
Uned 6: Astudiaethau Testunol – Testament Newydd
Bydd myfyrwyr yn archwilio:
- Y Damhegion - mathau a diben
- Gwyrthiau - mathau, dibenion a dehongliadau
- Epistolau- 1 Pedr - awduraeth a diben
- Llenyddiaeth Apocalyptaidd: Datguddiad – diffiniadau, nodweddion, dibenion a dehongliadau
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Gwareiddiad Clasurol
- Daearyddiaeth
- Hanes
- Y Gyfraith
- Athroniaeth
- Astudiaethau Crefyddol
- Cymdeithaseg
- Diwinyddiaeth
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu