Seicoleg - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 23 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Seicoleg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ymagweddau seicolegol hanesyddol a chyfredol ac ymchwil clasurol a chyfoes. Yn ogystal, mae cyfleoedd i archwilio pynciau llosg a thrafodaethau seicolegol. Bydd disgyblion hefyd yn astudio amrywiaeth o ddulliau a defnyddir gan seicolegwyr ac yn cynnal eu hymchwiliadau eu hunain. Pwysleisir ystyriaeth o faterion moesegol a goblygiadau ymdrechion seicolegol ym mhob agwedd o'r fanyleb.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs, fe drafodir yr unedau canlynol:

Uned 1 - Seicoleg: O’r Gorffennol i'r Presennol

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud - 20% o’r cymhwyster.

Pwrpas yr uned hon yw rhoi sylfaen gadarn yn rhai o elfennau craidd sylfaenol seicoleg. Y bwriad felly yw caniatáu i'r dysgwr, drwy astudio ymchwil clasurol, ddod i werthfawrogi bod seicoleg yn parhau i ddatblygu ac esblygu. Ni ddylid diystyru'r syniadau cynnar, yn hytrach na hynny, dylid eu hastudio mewn cyd-destun gan ystyried y datblygiadau a wnaed mewn blynyddoedd diweddarach. Gofynnir i ddysgwyr gael gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pum ymagwedd seicolegol (biolegol, seicodynamig, ymddygiadol, gwybyddol a phositif).

Uned 2 - Seicoleg: Ymchwilio i Ymddygiad

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud - 20% o’r cymhwyster.

Canolbwynt yr adran hon yw ymchwil seicolegol, o'r camau cynllunio cynnar hyd at y cam olaf o ddadansoddi a gwerthuso. Y bwriad yw cyflwyno ymgeiswyr i'r methodolegau a ddefnyddiwyd gan seicolegwyr wrth weithio'n wyddonol, ac i feithrin gwerthfawrogiad o effaith dewisiadau ar ganlyniadau'r gwaith ac o ganlyniad, y cymwysiadau posibl. Dylai dysgwyr werthfawrogi cyfyngiadau ymchwil gwyddonol wrth ddelio â chymhlethdodau bodau dynol fel deunydd prawf, gan fod nifer o faterion i'w hystyried.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg: C(H) neu B(I) Saesneg Iaith, o leiaf: B

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F17
L3

Cymhwyster

Psychology - AS

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Anthropoleg
  • Bioleg
  • Troseddeg
  • Addysg
  • Gwyddorau Amgylcheddol
  • Gwyddor Fforensig
  • Athroniaeth
  • Seicoleg
  • Cymdeithaseg
  • Sŵoleg

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE