Ffiseg - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Ffiseg A2 yn dilyn ymlaen o Ffiseg UG a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Gall cymhwyster mewn Ffiseg arwain at gwrs addysg uwch mewn Ffiseg, Peirianneg neu bynciau eraill cysylltiedig â gwyddoniaeth/technoleg, neu at gyflogaeth ble byddai dealltwriaeth o Ffiseg yn ddefnyddiol.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae A2 Ffiseg yn cwmpasu'r unedau canlynol:
Uned 3: Osgiladiadau a Niwclysau (arholiad ysgrifenedig 2awr 15m - 25% o’r cymhwyster)
Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Mudiant mewn cylch
- Dirgryniadau
- Theori Ginetig
- Ffiseg thermol
- Dadfeiliad niwclear
- Ynni niwclear
Bydd yr arholiad yn cael ei rannu yn ddwy adran:
Adran A: 80 marc - cymysgedd o gwestiynau ateb byr ac ateb estynedig gyda rhai wedi eu gosod mewn cyd-destun ymarferol.
Adran B: 20 marc - un cwestiwn darllen a deall.
Uned 4: Meysydd ac Opsiynau (arholiad ysgrifenedig 2awr - 25% o’r cymhwyster)
Adran A: 80 marc - cymysgedd o gwestiynau ateb byr ac ateb estynedig gyda rhai wedi eu gosod mewn cyd-destun ymarferol. Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Cynhwysiant
- Meysydd grym electrostatig a disgyrchol
- Orbitau a’r bydysawd ehangach
- Meysydd magnetig
- Anwythiad electromagnetig
Adran B: 20 marc - dewis o 1 allan o 4 opsiwn: Cerhyntau Eiledol, Ffiseg Feddygol, Ffiseg Chwaraeon, Egni a’r Amgylchedd.
A2 Uned 5: Arholiad ymarferol (10% o'r cymhwyster)
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy dasg:
Tasg Arbrofol (25 marc)
Tasg Ddadansoddol Ymarferol (25 marc)
Sylwer y byddai'r 40% sy'n weddill o’r marciau sydd ar gael wedi eu parhau o Ffiseg UG.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Addysgu ac Asesu
Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig
- Cyfrifiadureg
- Peirianneg Drydanol
- Peirianneg
- Technoleg Gwybodaeth
- Peirianneg Fecanyddol
Angen gwybod
Ein Rhaglen Ysgolheigion Safon Uwch
Cefnogaeth Dysgu