Ein nod yw eich cyfarparu â'r gallu i dynnu lluniau ac archwilio gwneud delweddau gydag amrywiaeth o gyfryngau digidol. Byddwch yn cael cipolwg ar yr agweddau cyd-destunol a chreadigol ar y pwnc, ynghyd â'r elfennau technegol o adeiladu delweddau, dysgu sut i ddefnyddio cyfarpar camera digidol a'r pecyn meddalwedd trin, Adobe Photoshop, i gynhyrchu delweddau ffotograffig o bortreadau, tirluniau, bywyd llonydd neu haniaethol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau i olygu lluniau a dadansoddi delweddau.
Mae'r pwnc hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth, ffilm a chelf weledol. Mae'n ffordd wych o atgyfnerthu portffolio i fynd ymlaen i Addysg Uwch neu i'r rheiny sydd ag awydd pwnc ymarferol i gydbwyso pynciau academaidd eraill. Mae'r pwnc hwn yn bleserus iawn ond nid yw'n opsiwn rhwydd a rhaid i chi allu rheoli'ch amser yn effeithiol i dynnu ffotograffau yn rheolaidd. Mae myfyrwyr llwyddiannus yn tynnu lluniau yn gyson yn eu hamser eu hunain, drwy gydol pob prosiect.
Noder: Bydd angen i chi ddefnyddio eich camera digidol eich hun (Compact £100 - DSLR £400) a bydd gofyn i chi chwyddo delweddau terfynol mewn labordai argraffu masnachol drwy gydol y cwrs. Mae'n bosibl y cewch dreuliau ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol, deunyddiau neu gostau argraffu.
Bydd yr unedau canlynol yn cael eu hastudio:
Uned 1: Portffolio Gwaith Cwrs
Cyflwyniad cyffredinol i faes ffotograffiaeth yn y celfyddydau. Ei nod yw eich cyfarparu chi â'r gallu i dynnu ffotograffau gwych, defnyddio camerâu digidol a bod yn hyderus wrth ddefnyddio meddalwedd trin ar gyfrifiaduron i gynhyrchu delweddau yn seiliedig ar lens. Cewch gipolwg ar yr agweddau hanesyddol a damcaniaethol ar y pwnc, a datblygu dealltwriaeth drylwyr o gyfansoddiad, arddull a defnydd iaith weledol mewn ffotograffiaeth.
Asesiad:
Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Cyfweliad. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.
17:45 - 20:45 ar ddydd Mercher.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Rydw i’n bendant yn credu bod y Coleg wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu cefnogol a gwych. Rydw i wedi mwynhau astudio fy holl gyrsiau yn fawr. Rydw i'n credu ei fod yn amgylchedd braf iawn i astudio ynddo.”
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: