Mathemateg Lefel AS yw'r hanner cyntaf o gwrs dwy flynedd. Mae'n ddewis da oherwydd: mae'r cwrs hwn yn cefnogi pynciau eraill megis y tair gwyddor, Seicoleg, Technoleg Gwybodaeth, Cyfrifiadureg a llawer mwy. Datblygwch eich gallu i feddwl yn rhesymegol a chyflwyno dadleuon ffurfiol, sy'n hanfodol i unrhyw yrfa. Mae hwn yn gymhwyster heriol, a groesewir gan bob prifysgol, pa bynnag cwrs gradd yr ymgeisiwch i'w astudio. Bydd holl golegau/chweched dosbarth yng Nghymru yn cyflwyno'r un fanyleb yn union o fis Medi 2017.
AS Uned 1: Mathemateg Bur A
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud (120 marc)
25% o'r cymhwyster Lefel A
Bydd y papur yn cynnwys nifer o gwestiynau byrion a hirion, strwythuredig a distrwythur, a ellir eu gosod ar unrhyw ran o gynnwys pwnc yr uned. Bydd nifer o gwestiynau yn asesu dealltwriaeth dysgwyr o fwy nag un pwnc o'r cynnwys pwnc. Caniateir cyfrifiannell yn yr arholiad hwn.
Byddwch yn astudio ystod o bynciau hanfodol gan gynnwys algebra a swyddogaethau, cyfesur geometreg yn y plân (x,y), prawf trwy ddiddwythiad, dull dihysbyddu a gwrthbrawf drwy wrthenghraifft, Dilyniannau a chyfresi, trigonometreg, esbonyddol a logarithmau, gwahaniethiad, integreiddiad, a fectorau. Bydd y rhain i gyd yn ffurfio'r sylfeini angenrheidiol i unrhyw un sy'n olrhain gyrfa mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg.
AS Uned 2: Mathemateg Gymhwysol A
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud (75 marc)
15% o'r cymhwyster
Bydd y papur yn cynnwys dwy adran: Adran A: Ystadegau (40 marc)
Adran B: Mecaneg (35 marc) Gellir rhannu cyfanswm yr amser asesu o 1 awr 45 munud rhwng Adran A ac Adran B fel yr ystyrir yn briodol gan ddysgwyr.
Caniateir cyfrifiannell yn yr arholiad hwn. Ymhellach, argymhellir myfyrwyr i brynu cyfrifiannell sy'n eu caniatáu nhw i gael mynediad at debygolrwydd cronnus ar gyfer dosbarthiadau ystadegol sylfaenol (e.e. Casio fx – 991 ex).
Yn y modiwl hwn cewch weld sut gall mathemateg gael ei chymhwyso i ystod o broblemau bywyd go iawn sy'n ymwneud ag ystadegau, tebygolrwydd a mecaneg. Bydd y pynciau a ymdrinnir â nhw yn cynnwys samplu ystadegol, cyflwyno a dadansoddi data, tebygolrwydd, dosbarthiadau ystadegol, profi damcaniaethau ystadegol, modelu mewn mecaneg, cinemateg gronyn, grymoedd a deddfau Newton, a fectorau.
Ffi Cwrs: £473.00
Ffi Arholiad : £60.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Isafswm mathemateg: B[H]
17:45 - 20:45 dydd Iau
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: