Mathemateg - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Mathemateg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru.

Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Mae Mathemateg Safon UG (manyleb newydd) yn ddewis da i ddisgyblion oherwydd yr hyblygrwydd mae’n gynnig:

  • Mae’n cefnogi pynciau eraill megis y tri phwnc gwyddoniaeth, Seicoleg, Technoleg Gwybodaeth a sawl un arall. 
  • Mae’n datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol a chyflwyno dadleuon ffurfiol, sy'n allweddol mewn unrhyw yrfa.
  • Mae’n gymhwyster heriol, a groesawir gan bob prifysgol, waeth pa gwrs gradd fyddwch chi'n ymgeisio i’w astudio.
  • Mae’n ddiddorol, ac yn cynnwys mwy o amrywiaeth o astudio nag y byddech yn ei ddisgwyl!

Bydd pob coleg/chweched dosbarth yng Nghymru yn cyflawni’r un fanyleb o fis Medi 2017.

Beth fyddwch yn ei astudio?

UG Uned 1: Mathemateg Bur

Uwch Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud (120 marc) - 25% o gymhwyster Safon Uwch

Bydd y papur yn cynnwys nifer o gwestiynau byr a hirach, yn strwythuredig a distrwythur, a allai fod yn seiliedig ar unrhyw ddarn o’r cynnwys pwnc yn yr uned. Bydd nifer o gwestiynau yn asesu dealltwriaeth dysgwyr o fwy nag un pwnc o gynnwys y pwnc. Caniateir cyfrifiannell yn yr arholiad hwn.

Byddwch yn astudio nifer o bynciau allweddol yn cynnwys algebra a swyddogaethau, geometreg gyfesurynnol yn y plân (x,y), prawf trwy ddidyniad, dihysbyddu a gwrthbrawf trwy wrthenghraifft, Dilyniannau a chyfres, trigonometreg, esbonyddol a logarithmau, differiad, integreiddiad, a fectorau. Bydd y rhain i gyd yn ffurfio sylfaen angenrheidiol i unrhyw un sydd eisiau dilyn gyrfa mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg.

UG Uned 2: Mathemateg Gymhwysol

UwchArholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud (75 marc) - 15% o’r cymhwyster

Bydd y papur yn cynnwys dwy adran:  Adran A: Ystadegau (40 marc)

Adran B: Mecanwaith (35 marc) 

Cyfanswm amser asesu o 1 awr 45 munud y gellir ei rannu rhwng Adran A ac Adran B fel y mae’r dysgwyr yn ei bennu i fod y addas.  Caniateir cyfrifiannell yn yr arholiad hwn.  Yn ogystal, argymhellir fod myfyrwyr yn prynu cyfrifiannell sy'n eu galluogi i gael mynediad at debygolrwydd cronnus ar gyfer dosbarthiadau ystadegol safonol (e.e. Casio fx–991 ex).

Yn y modiwl hwn, byddwch yn gweld sut y gellir cymhwyso mathemateg i amrywiaeth o broblemau bywyd go iawn yn ymwneud ag ystadegau, tebygolrwydd a mecanwaith. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys samplu ystadegol cyflwyno a dehongli data, tebygolrwydd, dosbarthiadau ystadegol, profi damcaniaethau ystadegol, modelu mewn mecanwaith, cinemateg gronyn, grymoedd a chyfreithiau Newton, a fectorau.

SYLWER: Nid oes modylau dewisol mewn mathemateg mwyach. O fis Medi 2017, bydd pob myfyriwr yn astudio’r un modylau ym mhob canolfan. Yn ogystal â hyn, bydd y cymhwyster UG newydd nawr yn atebol am 40% o’r cymhwyster Safon Uwch cyffredinol.

I gael manylion llawn y fanyleb newydd, defnyddiwch y ddolen ganlynol: http://www.cbac.co.uk/qualifications/mathematics/r-mathematics-gce-2017/?language_id=2

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg: B(H)

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F13
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Mathemateg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”

Bianca Zerbini
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Celf a Mathemateg ac A mewn Ffiseg

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Gwyddoniaeth Actiwaraidd
  • Peirianneg Awyrennol
  • Peirianneg Gemegol
  • Peirianneg Sifil
  • Economeg
  • Peirianneg Drydanol/Electronig
  • Peirianneg (Cyffredinol)
  • Mathemateg
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Ffiseg
  • Ystadegau

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE