Mathemateg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Mathemateg A2 yn dilyn ymlaen o Mathemateg UG (Etifeddol) a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae Mathemateg Safon Uwch yn ddewis da i ddisgyblion oherwydd yr hyblygrwydd mae’n gynnig:

  • Mae’n cefnogi pynciau eraill megis y tri phwnc gwyddoniaeth, Seicoleg, Technoleg Gwybodaeth a sawl un arall. 
  • Mae’n datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol a chyflwyno dadleuon ffurfiol, sy'n allweddol mewn unrhyw yrfa.
  • Mae’n gymhwyster heriol, a groesawir gan bob prifysgol, waeth pa gwrs gradd fyddwch chi'n ymgeisio i’w astudio.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Fel rhan o'r cwrs, ymdrinnir â'r meysydd canlynol:

Uned 3: Mathemateg Bur B

Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud

35% o'r cymhwyster Lefel A

Disgwylir i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â'r wybodaeth, sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd ymhlyg yn Uned 1.

Mae'r pynciau yn cynnwys -

Prawf drwy wrthddywediad

Symleiddio mynegiadau cymarebol, gan gynnwys drwy ffactoriaeth a chanslo a thrwy ymraniad algebraidd

Llunio cromliniau a ddiffinnir gan fodwlws ffrwythiant llinol.

Deall a defnyddio ffrwythiannau cyfansawdd; ffrwythiannau gwrthdro a'u graffiau

Uned 4: Mathemateg Gymhwysol B

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud

25% o'r cymhwyster Lefel A

Disgwylir i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â'r wybodaeth, sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd ymhlyg yn Uned 1, Uned 2 ac Uned 3.

Bydd y papur yn cynnwys dwy adran:

Adran A: Ystadegau (40 marc)

Adran B: Hafaliadau Gwahaniaethol (40 marc)

Mae rhagor o wybodaeth ar fanyleb y cwrs ar wefan CBAC; https://www.wjec.co.uk/qualifications/mathematics/r-mathematics-gce-2017/

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Tri arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F11
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Mathemateg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”

Bianca Zerbini
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Celf a Mathemateg ac A mewn Ffiseg

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Gwyddoniaeth Actiwaraidd
  • Peirianneg Awyrennol
  • Peirianneg Gemegol
  • Peirianneg Sifil
  • Economeg
  • Peirianneg Drydanol/Electronig
  • Peirianneg (Cyffredinol)
  • Mathemateg
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Ffiseg
  • Ystadegau

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE