Mae’r rhaglen Mathemateg (Etifeddol) A2 yn dilyn ymlaen o CBAC UG Mathemateg (Etifeddol) a dyma’r ail flwyddyn mewn cwrs dwy flynedd. Wedi ei leoli yn ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd dysgwyr yn gallu astudio’r Safon Uwch (Etifeddol) llawn mewn blwyddyn trwy fynychu dwy noson yr wythnos.
Yn ystod y cwrs hwn, fe drafodir y meysydd canlynol:
Modiwl M1 (Mecaneg 1) Arholiad 1.5 awr
Mae M1 yn cyflwyno’r cysyniad o fodelu mathemategol o sefyllfaoedd bywyd go iawn i ddatrys problemau, ac mae’r thema yma yn rhedeg trwy bob pwnc. Y pynciau a astudir yn M1 yw’r cinemateg (symudiad) o ronynnau yn symud mewn llinell syth yn llorweddol ac yn fertigol. Deinameg gronyn yn symud mewn llinell syth, gan ddefnyddio Cyfreithiau Newton i ddatrys problemau yn ymwneud â grymoedd yn gweithredu ar ronynnau p’un a ydynt yn symud neu p’un a ydynt yn sefydlog (mewn cydbwysedd). Cyflwynir momentau a’r syniad o rymoedd troi yn cynnwys y cysyniad o graidd mas. Y pwnc terfynol yw fectorau a sut fyddwn ni'n eu defnyddio i ddatrys problemau.
Modiwl C3 (Mathemateg Graidd 3) Arholiad 1.5 awr
Mae’r modiwl hwn yn trafod pynciau a drafodwyd eisoes yn C1 ac C2 ac yn eu datblygu ymhellach. Cyflwynir cymwysiadau trigonometreg newydd yn cynnwys hunaniaethau trigonometrig. Mae differiad hefyd yn ffocws allweddol i’r uned hon gan archwilio nifer o wahanol ddulliau differiad. Cyflwynir dulliau rhifol yn swyddogol a’u hymestyn am y tro cyntaf ers TGAU Mathemateg. Maes pwnc olaf C3 yw swyddogaethau.
Modiwl C4 (Mathemateg Graidd 4) Arholiad 1.5 awr
Mae C4 yn ymestyn rhai pynciau o fodylau blaenorol; edrychir eto ar yr ehangiad binomaidd, yn ogystal â geometreg gyfesurynnol. Mae rhan sylweddol o C4 yn ffocysu ar y nifer o wahanol ddulliau integreiddio, yn ogystal â chyflwyno un neu ddau ddull differiad newydd. Yn olaf, cyflwynir fectorau a’u cymwysiadau.
Mae yna ddau arholiad 1.5 awr ysgrifenedig.
SYLWER: Mae manyleb CBAC ar gyfer mathemateg Safon Uwch yn newid eleni. Os nad ydych chi'n cwblhau'r cwrs A2 (Etifeddol) yn 2017-2018 efallai na fydd modd i chi wneud hyn yn CAVC yn 2018-2019
Gwerslyfrau Cwrs (dewisol)
CBAC A2 Mathemateg Graidd 3 a 4: Canllaw Astudio ac Adolygu
ISBN: 978-1908682031
CBAC UG Mathemateg M1 Mecaneg: Canllaw Astudio ac Adolygu
ISBN: 978-1908682161
Ffi Cwrs: £473.00
Ffi Arholiad : £60.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
17:45 - 20:45 dydd Mawrth
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: