Y Gyfraith - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Cyfraith Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r cwrs yn cynnwys dwy uned yn trafod strwythurau a phrosesau cyfreithiol, rhesymeg gyfreithiol a phersonél.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Uned 1: Deall Strwythurau a Phrosesau Cyfreithiol
- Datblygiad y system cyfraith gyfraith gyffredin a dylanwad sylfaenol rheolaeth cyfraith, hawliau dynol a moesoldeb ar ein cyfreithiau.
- Systemau'r llysoedd a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys ymweliad i'r llysoedd).
- Y broses droseddol yn cynnwys caniatáu mechnïaeth a threialon rheithgor.
- Y broses sifil yn cynnwys dewisiadau amgen i’r llysoedd a system y tribiwnlysoedd.
- Mynediad at gyfiawnder a’r angen am gymorth cyfreithiol.
Mae yna un arholiad ysgrifenedig (1awr 30m) yn Ionawr neu Fehefin, sy'n cynnwys ateb dau draethawd dwy ran.
Uned 2: Deall rhesymeg gyfreithiol a phersonél
- Mae hyn yn galw am astudio ffynonellau’r gyfraith ac edrych ar sut y’i defnyddir yn y llysoedd. Mae cynsail farnwrol yn gyfraith achos a benderfynir gan y barnwyr. Mae dehongliad statudol yn ymwneud â chyfraith a luniwyd gan y Senedd a sut mae barnwyr yn dehongli eu geiriau. Yn olaf, byddwn yn archwilio cyfreithiau Ewropeaidd a sut maent yn effeithio ar gyfraith Lloegr.
- Mae’r pwnc personél yn edrych ar ddethol a rolau cyfreithwyr, bargyfreithwyr, barnwyr ac ynadon.
Ceir un arholiad ysgrifenedig (1awr 30m) yn Ionawr neu Fehefin sy'n cynnwys dau gwestiwn cymhwyso gofynnol ble mae myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth o ffynonellau'r gyfraith i ddatrys senarios ffuglennol.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith B
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Rheoli Busnes
- Y Gyfraith
- Newyddiaduriaeth
- Gwleidyddiaeth
- Addysgu
Angen gwybod
Ein Rhaglen Ysgolheigion Safon Uwch
Cefnogaeth Dysgu