Y Gyfraith - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Cyfraith A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:
- Hawliau Dynol
- Rôl y gyfraith
- Rhyddid i lefaru
- Rhyddid y person
- Rhyddid crefyddol
- Hawl i breifatrwydd
- Cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu
Mae’r pynciau yn cynnwys:
- Mae Hawliau Dynol yn mynd i fanylder ynghylch y cysyniad o ryddid dan y gyfraith
- Rôl y gyfraith o ran rheoleiddio rhyddid a gallu’r Llysoedd a'r Senedd i amddiffyn rhyddid ynghyd â rhwymedigaethau Ewropeaidd dan Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol
- Mae rhyddid i lefaru yn archwilio meysydd fel cyfrinachedd swyddogol, anlladrwydd, difenwi a rheoli arddangosiadau a phrotest
- Mae rhyddid y person yn edrych ar bwerau'r heddlu i chwilio, arestio a chadw dinasyddion
- Mae’r
hawl i breifatrwydd yn cynnwys rôl gwasg rydd a gallu’r heddlu a gwasanaethau diogelwch i gynnal ymgyrchoedd cudd megis gwrando ar alwadau ffôn - Edrycha rhyddid crefyddol ar y broblem o ddilyn crefydd mewn Prydain fodern, amlddiwylliannol
- Yn olaf byddwn yn edrych ar faes cynyddol cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu megis hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb a chrefydd
Mae tri arholiad ym Mehefin. Yn LW4 mae myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn am broblem o ddewis o bedwar ble cyflwynir senario a rhaid i chi roi cyngor i gleient. Mae LW5 yn ddau draethawd o ddewis o chwech ble gofynnir i chi ddadansoddi materion yn feirniadol. Mae LW6 yn gwestiwn synoptig sy'n gofyn i chi drafod maes pwysig o hawliau dynol gan gyfeirio at y gwaith a wnaed ar lefel UG.
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Addysgu ac Asesu
- Tri arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Rheoli Busnes
- Y Gyfraith
- Newyddiaduriaeth
- Gwleidyddiaeth
- Addysgu
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu