Iechyd a Gofal Cymdeithasol - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs Safon Uwch TAG CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau trylwyr a manwl i fyfyrwyr sy'n ymwneud â datblygiad a gofalu am unigolion drwy gydol eu hoes. Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth ymhellach o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd wedi cwblhau’r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel UG. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar ôl astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant ar lefel UG, mae modd i ddysgwyr ddewis rhwng dau lwybr A2 i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn mewn naill ai gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol oedolion. 

Bydd y llwybr Gofal Plant yn ymdrin â:

Safbwyntiau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc 
Cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwytnwch plant a phobl ifanc. 

Bydd y llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion yn ymdrin â:

Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
Cefnogi oedolion i gynnal eu hiechyd, eu llesiant a’u gwytnwch.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F63
L3

Cymhwyster

WJEC Level 3 Advanced GCE in Health and Social Care, and Childcare

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rydw i’n credu bod fy amser i yn CAVC wedi fy helpu i gyrraedd y nodau oedd gen i pan wnes i gais i’r Coleg, Roedd y gefnogaeth a gefais i gan fy athrawon a fy nghyfoedion drwy gydol fy nghyrsiau yn galluogi i mi ddatblygu a llwyddo yn greadigol ac yn academaidd.

Laurie Powell
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Astudiaethau Ffilm, Dylunio Graffeg a Ffotograffiaeth

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Mae’r cymhwyster yn darparu sylfaen addas i astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy ystod eang o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gall dysgwyr hefyd fynd ymlaen i gwblhau cymwysterau eraill o fewn y gyfres o gyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

Yn ogystal, mae’r fanyleb yn cynnig cwrs astudio cydlynol, boddhaus a gwerth chweil i ddysgwyr nad ydynt yn dymuno mynd ymlaen i astudio’r pwnc ymhellach, ond a fydd yn denu pwyntiau UCAS a all helpu dysgwyr fynd ymlaen i astudio cyrsiau Addysg Uwch. 

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE