Iechyd a Gofal Cymdeithasol - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae cyrsiau TAG, UG a Safon Uwch CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau trylwyr a manwl i fyfyrwyr sy'n ymwneud â datblygiad a gofal unigolion trwy gydol eu hoes, o'u cenhedlu hyd nes y byddant yn oedolion hŷn. Mae dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf, datblygiad, ymddygiad a lles dynol. Byddant hefyd yn ennill dealltwriaeth fanwl o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn cydnabod bod gan bob unigolyn gyfuniad unigryw o alluoedd ac anghenion. Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth drylwyr o sut mae darparu gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion, i allu gwneud penderfyniadau gwybodus nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio modiwlau:

  • Hyrwyddo Iechyd a Lles
  • Cefnogi iechyd, lles a gwydnwch yng Nghymru 
  • Safbwyntiau damcaniaethol ar ddatblygiad ac ymddygiad
  • Cefnogi datblygu a chynnal iechyd a lles

Caiff y cymhwyster hwn ei asesu drwy un asesiad dan reolaeth ac un arholiad.

Gofynion mynediad

5 TGAU Gradd A* - C yn cynnwys C mewn Saesneg Iaith a Mathemateg

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F63
L3

Cymhwyster

WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

"Rydw i’n credu bod fy amser i yn CAVC wedi fy helpu i gyrraedd y nodau oedd gen i pan wnes i gais i’r Coleg, Roedd y gefnogaeth a gefais i gan fy athrawon a fy nghyfoedion drwy gydol fy nghyrsiau yn galluogi i mi ddatblygu a llwyddo yn greadigol ac yn academaidd.”

Laurie Powell
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Astudiaethau Ffilm, Dylunio Graffeg a Ffotograffiaeth

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Safon Uwch, mae’r mwyafrif o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau’n unig o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Nyrsio
  • Bydwreigiaeth
  • Nyrsio Cynorthwyol
  • Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
  • Gweithwyr Proffesiynol Cydymaith Iechyd

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE