Y Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae'r cwrs hwn yn daith archwiliadol trwy systemau gwleidyddol Prydain a’r Unol Daleithiau, gyda phwyslais ar eich dealltwriaeth o wleidyddiaeth, yn hytrach na dysgu gwleidyddiaeth. Trwy gydol y rhaglen, anogir disgyblion i archwilio gwaith, prosesau a fframweithiau yr amrywiol sefydliadau, unigolion a grwpiau gwleidyddol sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth y ddwy wlad. Efallai y bydd yn bosibl i ddysgwyr ddilyn y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan amser.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae dwy uned i'r cwrs sy'n cynnwys pynciau megis etholiadau, grwpiau ymgyrchu, Cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, y farnwriaeth ac ati.
Uned 1: Pobl a Gwleidyddiaeth (arholiad ysgrifenedig o 1awr 20m)
- Democratiaeth a Chyfranogiad - prif nodweddion system wleidyddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau a Phleidleisio - dealltwriaeth o’r system etholiadol
- Pleidiau Gwleidyddol - deall traddodiadau ac ideolegau
- Grwpiau Ymgyrchu - gwybodaeth o wahanol gategorïau o grwpiau a sut maent yn gweithredu
Uned 2: Llywodraethu’r Deyrnas Unedig (arholiad ysgrifenedig 1awr 20m)**
- Y Cyfansoddiad - dealltwriaeth o nodweddion a natur Cyfansoddiad y Deyrnas Unedig
- Senedd - dealltwriaeth o rolau a strwythurau
- Prif Weinidog a’r Cabinet - dealltwriaeth o’r pwerau ffurfiol ac anffurfiol
- Y Farnwriaeth - gwybodaeth o rôl a phŵer y barnwyr
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Rheoli Busnes
- Gofal
- Y Gyfraith
- Newyddiaduriaeth
- Gwleidyddiaeth
- Addysgu
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu