Almaeneg UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r rhaglen Almaeneg UG yn gwrs un flwyddyn o astudio. Mae Almaeneg lefel UG yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth Almaeneg gyfredol, ac mae'n ddelfrydol os ydych yn dymuno datblygu gwybodaeth ddyfnach ynghylch cymdeithas, iaith a diwylliant yr Almaen. Byddwch hefyd yn elwa o'r cwrs hwn os oes angen i chi ddefnyddio’r Almaeneg ar gyfer gwaith, astudio, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden, gan y byddwch yn datblygu pob un o’r pedwar sgil – siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Ar ben hynny, bydd y cwrs yn rhoi cipolwg ar agweddau diwylliannol gwledydd lle siaredir Almaeneg, yn ogystal â rhoi’r cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio materion cyfoes.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae 2 thema a astudir yn y cymhwyster Almaeneg UG:

· Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas lle siaredir Almaeneg

· Deall y byd cyfrwng Almaeneg.

Thema 1: Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas lle siaredir Almaeneg

Bydd dysgwyr yn astudio strwythurau teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, a chyfeillgarwch a pherthnasau, tueddiadau ieuenctid, materion hunaniaeth bersonol a chyfleoedd addysgol a chyflogaeth. Mae hon yn thema sy’n uniaethu â bywydau pobl ifanc heddiw a bydd yn galluogi’r dysgwr i ddangos empathi tuag at broblemau a datblygu gwybodaeth ynghylch sut maent yn effeithio ar y gwledydd neu’r cymunedau lle siaredir Almaeneg.

Thema 2: Deall y byd cyfrwng Almaeneg

Yn y thema hon, bydd dysgwyr yn astudio diwylliant ardal a threftadaeth yn yr Almaen, gwledydd sy’n siarad Almaeneg a chymunedau a llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd cyfrwng Almaeneg. Mae hyn yn trochi dysgwyr yn niwylliant a threftadaeth yr Almaen a gwledydd a chymunedau cyfrwng Almaeneg.

Yn ogystal â hyn bydd dysgwyr yn astudio un ffilm.

Addysgu ac Asesu

4 awr yr wythnos o ddarpariaeth.

Uned 1 Siarad - 12% o’r cymhwyster

Bydd yr asesiad llafar yn para cyfanswm o 12-15 munud. Mae 2 dasg ar wahân. Yn y dasg gyntaf, mae’n rhaid i ddysgwyr ddadlau eu safbwynt ar sail cerdyn ysgogiad ysgrifenedig. Mae’r ail dasg lafar yn cynnwys trafodaeth ar sail ail gerdyn ysgogiad ysgrifenedig.

Uned 2 Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb beirniadol wrth ysgrifennu - 28% o’r cymhwyster

Ar gyfer yr asesiad hwn, mae’n rhaid i ddysgwyr ateb cwestiynau darllen a deall yn seiliedig ar ddetholiadau Gwrando a Darllen, cyfieithu detholiad byr o Almaeneg i Saesneg ac ysgrifennu traethawd yn cynnwys tua 300 o eiriau ar y ffilm yr astudiwyd ganddynt.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F64
L3

Cymhwyster

German - AS

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i symud ymlaen i A2.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE