Daearyddiaeth - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs Daearyddiaeth Lefel A2 hwn yn gwrs blwyddyn a dylid ei gymryd ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall, ynghyd â Baglor Cymru. Gellir fod yn bosibl i ymgymryd â'r cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser.

Mae'r cwrs hwn yn annog dysgwyr i gymhwyso gwybodaeth ddaearyddol, damcaniaeth a sgiliau i'r byd o'u cwmpas. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth allweddol o bobl, llefydd ac amgylcheddau'r byd yn y 21ain Ganrif. Ffocws y fanyleb yw datblygu brwdfrydedd tuag at ddaearyddiaeth a chymhwysedd ynddo drwy ddefnyddio cyd-destunau cyfoes y byd go iawn gan dynnu ar ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, archwilio rhyngweithiadau pobl â'r amgylchedd ac annog datblygiad gwaith maes ar lefel leol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r unedau canlynol wedi'u cynnwys:

Uned 3: Systemau Byd-eang a Llywodraethu Byd-eang
Arholiad ysgrifenedig 2 awr
Adran A: Systemau byd-eang: Cylchoedd dŵr a charbon
Adran B: Llywodraethu byd-eang: Newid a heriau - mudo a chefnforoedd

Uned 4: Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth
Arholiad ysgrifenedig 2 awr
Adran A: Peryglon tectonig
Adran B: Ecosystemau a thwf economaidd a her: India, Tsieina neu Affrica Is-Sahara

Uned 5: Ymchwiliad Annibynnol
Asesiad heb arholiad: 3000-4000 o eiriau; yn seiliedig ar gasglu data sylfaenol a gwybodaeth eilaidd.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F37
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Daearyddiaeth

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”

Bianca Zerbini
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Celf a Mathemateg ac A mewn Ffiseg

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Amaethyddiaeth
  • Astudiaethau Amgylcheddol
  • Economeg
  • Daeareg
  • Daearyddiaeth

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE