Mathemateg Bellach - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Mathemateg Bellach Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Mae Mathemateg Bellach Safon UG (manyleb newydd) yn ddewis da i ddisgyblion oherwydd yr hyblygrwydd mae’n gynnig:

  • Mae’n cefnogi pynciau eraill megis y tri phwnc gwyddoniaeth, Seicoleg, Technoleg Gwybodaeth a sawl un arall.
  • Argymhellir y dylai unrhyw fyfyriwr sydd eisiau mynd ymlaen i’r Brifysgol i astudio pwnc STEM (yn arbennig mathemateg neu beirianneg) astudio mathemateg bellach.
  • Mae’n datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol a chyflwyno dadleuon ffurfiol, sy'n allweddol mewn unrhyw yrfa.
  • Mae’n gymhwyster heriol, a groesawir gan bob prifysgol, waeth pa gwrs gradd fyddwch chi'n ymgeisio i’w astudio.

Bydd pob coleg/chweched dosbarth yng Nghymru yn cyflawni’r un fanyleb o fis Medi 2017.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd tair uned, pob un yn atebol am 1/3 o'r cymhwyster UG, a fydd ynddo’i hun yn atebol am 40% o’r cymhwyster Safon Uwch.

Mae pob uned yn ofynnol

Nid yw’r un o’r papurau yn gofyn am wybodaeth o Fathemateg A2, fodd bynnag, bydd yr asesiad terfynol yn tybio dealltwriaeth o Fathemateg UG.

Bydd pob papur yn cynnwys nifer o gwestiynau byr a hirach, yn strwythuredig a distrwythur, a allai fod yn seiliedig ar unrhyw ddarn o’r cynnwys pwnc yn yr uned. Bydd nifer o gwestiynau yn asesu dealltwriaeth dysgwyr o fwy nag un pwnc o gynnwys y pwnc. Bydd arholiad ar gyfer pob uned gyda chymorth cyfrifiannell.

UG Uned 1: Mathemateg Bur Bellach A

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud (70 marc) - 13.3% o gymhwyster Safon Uwch

Bydd y modiwl hwn yn dwysau ac ehangu eich dealltwriaeth o fathemateg bur. Bydd yn ymestyn eich gwybodaeth o algebra, swyddogaethau a fectorau, tra hefyd yn eich cyflwyno i bynciau newydd, pwysig iawn megis rhifau cymhlyg, matricsau a dulliau prawf.

UG Uned 2: Ystadegau Pellach A

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud (70 marc) - 13.3% o gymhwyster Safon Uwch

Bydd y modiwl hwn yn ehangu eich dealltwriaeth o ddosbarthiadau ystadegol a chasgliadau ystadegol. Yn benodol, byddwch yn cael eich cyflwyno i fodelau ystadegol pwysig megis y broses Poisson a’r dosbarthiad esbonyddol. Byddwch hefyd yn edrych ar fodelau ar gyfer “llwyddiant y ffit” megis cyfernod Spearman a Chi sgwâr.

UG Uned 3: Mecaneg Bellach A

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud (70 marc) - 13.3% o’r cymhwyster Safon Uwch

Bydd yr uned hon yn ymestyn eich gwybodaeth o fodelau mecanyddol i drafod momentwm a symbyliad - Cyfraith Hooke, Gwaith, Egni, Pŵer a mudiant mewn cylch. Yn ogystal, byddwch yn cael eich cyflwyno i gymhwysiad calcwlws i fectorau sy'n modelu mudiant.

SYLWER: Nid oes modylau dewisol mewn mathemateg bellach mwyach. O fis Medi 2017, bydd pob myfyriwr yn astudio’r un modylau ym mhob canolfan. Yn ogystal â hyn, bydd y cymhwyster UG newydd nawr yn atebol am 40% o’r cymhwyster Safon Uwch cyffredinol.

I gael manylion llawn y manylebau newydd (mathemateg a mathemateg bellach) defnyddiwch y ddolen ganlynol:

http://www.cbac.co.uk/qualifications/mathematics/r-mathematics-gce-2017/?language_id=2

Sylwer: Oherwydd newidiadau i fanylebau a chyfyngiadau amserlenni, nid yw'n bosibl astudio Mathemateg Bellach UG ac A2 ar y cyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2017 – 2018.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: A/A* neu TGAU Mathemateg

Addysgu ac Asesu

  • Tri arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

9 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F33
L3

Cymhwyster

Maths – Fast Track A Level

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Gwyddoniaeth Actiwaraidd
  • Peirianneg Awyrennol
  • Peirianneg Gemegol
  • Peirianneg Sifil
  • Economeg
  • Peirianneg Drydanol/Electronig
  • Peirianneg (Cyffredinol)
  • Mathemateg
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Ffiseg
  • Ystadegau

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE