Ffrangeg - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Ffrangeg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae Ffrangeg Safon UG yn addas i fyfyrwyr sydd eisiau hybu eu gwybodaeth o Ffrangeg ymhellach, ac yn ddelfrydol os ydych chi eisiau datblygu dealltwriaeth fwy dwys o gymdeithas, iaith a diwylliant Ffrainc. Byddwch hefyd yn elwa’r o'r cwrs hwn os ydych chi angen defnyddio Ffrangeg ar gyfer gwaith, astudio, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden, gan y byddwch yn datblygu’r pedair sgil – siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Yn ogystal, bydd y cwrs hwn yn darparu mewnwelediad i agweddau diwylliannol gwledydd ble siaredir Ffrangeg, yn ogystal â darparu’r cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio materion cyfoes. Bydd gan ddisgyblion fynediad at amrywiaeth o adnoddau amlgyfrwng a TG trwy gydol y cwrs, gan wneud defnydd o gyfleusterau TG yn y dosbarth, yn ogystal â’r rhai sydd wedi eu lleoli yn y Canolfannau Dysgu a’r Ystafell Mynediad Agored, ble mae cefnogaeth ar gael ar bob adeg. Cynigir cyngor, help ac anogaeth i fyfyrwyr nad ydynt yn gyfarwydd â defnyddio TGCh hefyd. Dysgir gramadeg Ffrangeg ym mhob dosbarth ac fe’i hatgyfnerthir gydag ymarferion a thaflenni cymorth y gellir eu cyrchu trwy Moodle (amgylchedd dysgu rhyngrwyd y coleg). Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau llafar gyda siaradwyr Ffrangeg brodorol ac fe ddarperir cysylltiadau gydag ysgolion yn Ffrainc a Québec gan annog cyswllt.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Astudir 2 thema mewn Ffrangeg Uwch Gyfrannol: 

  • Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas Ffrangeg 
  • Deall y byd Ffrangeg 


Thema 1: Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas Ffrangeg 

Bydd dysgwyr yn astudio strwythurau teuluol, gwerthoedd modern a thraddodiadol, cyfeillgarwch a pherthnasoedd, tueddiadau pobl iau, materion a hunaniaeth bersonol a chyfleoedd addysgiadol a chyflogaeth. Dyma thema sy'n atseinio ym mywydau pobl ifanc heddiw, a bydd yn galluogi'r dysgwr i gydymdeimlo gyda materion a chyfoethogi eu gwybodaeth am sut maent yn effeithio ar wledydd a chymunedau lle mae pobl yn siarad Ffrangeg. 


Thema 2: Deall y byd Ffrangeg 

Yn y thema hon, bydd dysgwyr yn astudio diwylliant ac etifeddiaeth ranbarthol yn Ffrainc, gwledydd a chymunedau lle siaredir Ffrangeg, a llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd Ffrangeg. Mae hyn yn trochi dysgwyr yn niwylliant ac etifeddiaeth Ffrainc, a gwledydd a chymunedau lle siaredir Ffrangeg. 

Yn ychwanegol at hyn, bydd dysgwyr yn astudio un ffilm. 

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B Gofynion Eraill: B mewn TGAU Ffrangeg

Addysgu ac Asesu

Uned 1 Siarad – 12% o'r cymhwyster  

Bydd yr asesiad siarad yn para 12-15 munud. Ceir 2 dasg ar wahân. Yn y dasg gyntaf, mae'n rhaid i ddysgwyr ddadlau dros safbwynt yn seiliedig ar gerdyn symbylau ysgrifenedig. Mae'r ail dasg siarad yn cynnwys trafodaeth yn seiliedig ar ail gerdyn symbylau ysgrifenedig. 

Uned 2 Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb beirniadol yn ysgrifenedig – 28% o'r cymhwyster 

Ar gyfer yr asesiad hwn, bydd dysgwyr yn gorfod ateb cwestiynau dealltwriaeth yn seiliedig ar ddarn Gwrando a Darllen, a chyfieithu darn byr o Ffrangeg i Saesneg, ac ysgrifennu traethawd o oddeutu 300 ar y ffilm maent wedi ei hastudio. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F48
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Ffrangeg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Rwy'n edrych ymlaen at y cam nesaf a gwneud cais i astudio yn y brifysgol."

Michael Sung
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Ffrangeg
  • Ieithoedd
  • Hanes
  • Y Gyfraith

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE