Ffrangeg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r rhaglen Ffrangeg Safon Uwch yn ddilyniant i Ffrangeg Uwch Gyfrannol a dylid ymgymryd â hi ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall a Baglor Cymru.

Wedi'i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, gall dysgwyr ymgymryd â'r cymhwyster hwn fel myfyrwyr rhan-amser.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Astudir 2 thema mewn Ffrangeg Safon Uwch:

  • Amrywiaeth, Gwahaniaeth a Ffrainc 1940-1950:
  • Y Feddiannaeth a'r blynyddoedd wedi'r Rhyfel.

Thema 3: Amrywiaeth a Gwahaniaeth

Bydd myfyrwyr yn astudio ymfudo ac integreiddio, hunaniaeth ddiwylliannol ac ymdriniaeth ymylol, cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth a gwahaniaethu ac amrywiaeth. 

Thema 4: Ffrainc 1940-1950: Y Feddiannaeth a'r blynyddoedd wedi'r Rhyfel

Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i thema sy'n benodol ar wlad, ac yn canolbwyntio ar gyfnod allweddol yn hanes Ffrainc, gan gynnwys digwyddiadau pwysig mewn diwylliant gwleidyddol, deallusol ac artistig, sydd wedi helpu i siapio'r wlad i'r hyn sydd ohoni heddiw.

Yn ychwanegol at hyn, bydd dysgwyr yn astudio testun llenyddol.

Addysgu ac Asesu

Ceir 3 arholiad.

Uned 3 Siarad – 18% o'r cymhwyster

Bydd yn para 11 - 12 munud, ac yn cynnwys 1 dasg. Bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol fydd yn rhoi cyfle iddynt ddewis maes sydd o ddiddordeb personol i'w astudio'n annibynnol, a byddant yn cael eu hannog i ymestyn eu gwybodaeth a gwerthfawrogiad o'r gwledydd neu gymunedau lle siaredir Ffrangeg. Yn yr arholiad, bydd dysgwyr yn cyflwyno eu pwnc dewisol, a gofynnir cwestiynau iddynt am y pwnc hwnnw.

Uned 4 Gwrando, Darllen a Chyfieithu – 30% o'r Cymhwyster

Arholiad 2 awr

Uned 5 Ymateb beirniadol a dadansoddol yn ysgrifenedig – 12% o'r cymhwyster 

Arholiad 1 awr 30 munud

Gofynnir i ddysgwyr gynhyrchu ymateb beirniadol a dadansoddol yn ysgrifenedig, mewn oddeutu 400 gair, i gwestiwn ar y gwaith llenyddol a astudiwyd o'r rhestr benodol.

Gofynion mynediad

Wedi cwblhau rhaglen Uwch Gyfrannol yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol a geirda gan diwtor.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F53
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Ffrangeg

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Rwy'n edrych ymlaen at y cam nesaf a gwneud cais i astudio yn y brifysgol."

Michael Sung
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Ffrangeg
  • Ieithoedd
  • Hanes
  • Y Gyfraith

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE