Astudiaethau Ffilm - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Astudiaethau Ffilm Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r cwrs Astudiaethau Ffilm Safon UG yn darparu cyflwyniad manwl i astudio'r diwydiannau sinema a ffilm, yn cynnwys tair rhan i archwilio’r berthynas rhwng ffilm a chynulleidfaoedd ac mae wedi ei gynllunio i hybu eich profiad o ffilm.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Rhan 1: Ffilm Americanaidd 
Mae'r ffocws ar astudio sinema gyfoes Hollywood o’r 1960au ymlaen, ac ar ffilmiau annibynnol Americanaidd. Byddwch yn astudio naratif, genre, portread, themâu a chyd-destun ffilmiau penodol a sut mae pob un o'r elfennau ffilmol hyn yn tywys eich dealltwriaeth o gynhyrchu ffilm o fewn cyfnod amser penodol. Ymysg ffilmiau astudiaethau achos posibl mae Bonnie and Clyde, One Flew Over the Cuckoo’s Nest, Inception, a Django Unchained.

Bydd y modiwl hwn yn cael ei asesu'n allanol gydag arholiad 1 ½ awr.

Rhan 2: Ffilm Ewropeaidd

Mae’r ffocws ar astudio ffilmiau Prydeinig a ffilmiau Ewropeaidd mewn ieithoedd nad ydynt yn Saesneg. Elfen o’r rhan yma fydd astudiaeth gymharol hanesyddol o ddwy ffilm Brydeinig, megis Brief Encounter ac Atonement, gan ystyried a dadansoddi'r cysylltiadau thematig neu gysylltiadau trwy faterion sy'n codi yn y ffilmiau hyn. Byddwch hefyd yn astudio un ffilm Ewropeaidd mewn iaith nad yw’n Saesneg, megis Pan’s Labyrinth neu Ida, gan ystyried ei gyd-destun a thema Ewropeaidd nodweddiadol.

Bydd y modiwl hwn yn cael ei asesu'n allanol gydag arholiad 1 ½ awr.

Rhan 3: Cynhyrchu

Mae’r elfen hon yn cynnwys cynhyrchiad unigol sy'n ymwneud ag agweddau creadigol y diwydiant ffilm. Bydd y darn synoptig hwn o waith yn eich galluogi i roi syniadau creu ffilmiau yr ydych wedi eu datblygu trwy gydol eich astudiaethau ar waith. Gall y cynhyrchiad fod ar ffurf darn wedi ei ffilmio o ffilm nodwedd yr ydych wedi ei chreu eich hun, neu ddarn o sgript ffilm gyda ffocws cryf ar naratif.

Asesir y modiwl yn fewnol a thrwy gymedroli allanol, ac mae'n wrth 30% o’ch gradd gyffredinol.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B

Addysgu ac Asesu

  • Arholiadau ysgrifenedig ac aseiniad gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F06
L3

Cymhwyster

CBAC Eduqas TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Astudiaethau Ffilm

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“O ran y cyfleoedd atgyfnerthu mae'r coleg wedi'u cynnig i mi cefais weithio ar ddwy ffilm fer. Cawsant eu darlledu ar BBC Two roedd hynny'n brofiad gwych. Ac rwyf hefyd wedi cael cymarth yn fy mhroses ymgeisio i fynd i ysgol haf yn ninas efrog newydd, lle byddaf yn astudio blwyddyn nesaf am ddau fis sy'n wallgof.”

Gwellian Mellor
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Ffilm, Dawns a Drama

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Y Celfyddydau
  • Saesneg
  • Astudiaethau Ffilm 

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE