Mae’r rhaglen Saesneg Iaith Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Yn ogystal â pharhau i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, siarad a gwrando, byddwch hefyd yn astudio’r iaith Saesneg ei hun, gan ddysgu am:
Os ydych chi'n ystyried bod yn athro Cynradd neu Ysgol Iau, bydd y cwrs yn rhoi cychwyn da i chi. Mae hefyd yn ffordd arbennig o baratoi ar gyfer cyrsiau mewn Newyddiaduraeth, Ieithyddiaeth, Cyfathrebu neu Therapi Lleferydd.
Mae UG Saesneg Iaith yn trafod y ddwy uned ganlynol:
Uned 1: Arholiad ysgrifenedig allanol (tymor yr haf): 1awr 45m
Mae dwy adran i'r arholiad hwn: Adran A ac Adran B.
Adran A: Dadansoddi iaith (20%)
Wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn, bydd ymgeiswyr yn astudio amrywiaeth o enghreifftiau o destunau llafar ac ysgrifenedig, a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn gyfarwydd â nodweddion iaith lafar ac ysgrifenedig. Mae’n ofynnol i chi ateb un cwestiwn yn ceisio dadansoddi’r modd mae siaradwyr ac ysgrifenwyr yn defnyddio iaith i lunio ystyr, gan ddefnyddio terminoleg a dulliau dadansoddi priodol a gefnogir gan ddyfyniadau addas. Bydd yna o leiaf ddau destun yn gysylltiedig trwy naill ai thema neu genre ble byddwch yn dadansoddi, dehongli ac archwilio’r cysylltiadau rhwng y testunau, gan geisio dehongli’r effeithiau a grëir gan ddefnydd siaradwyr neu awduron o iaith.
Adran B: Saesneg Cyfoes (20%)
Wrth baratoi ar gyfer yr arholiad hwn, bydd ymgeiswyr yn astudio sut y defnyddir iaith yn benodol yn yr 21ain ganrif gan ddysgu i werthfawrogi fod iaith yn esblygu'n barhaus i fodloni anghenion ei ddefnyddwyr. Bydd yna un testun unigol neu set o ddata gyda chwestiwn ffocws. Gall y rhain fod yn destunau ysgrifenedig, yn ogystal â ffocws Cymreig. Mae’r adran hon yn gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu ymateb ehangedig (traethawd) ble byddant yn dangos eu dealltwriaeth o gysyniadau a materion iaith cyfoes. Rhaid i ymgeiswyr ystyried effaith ffactorau cyd-destunol (pragmateg), a dadansoddi’r ffordd y defnyddir iaith i greu ystyr. Bydd cysyniadau o'r fath yn cynnwys
Bydd angen i ddysgwyr werthuso’n feirniadol sut mae ffactorau cyd-destunol yn effeithio ar ffurf a strwythur, yn dadansoddi sut mae nodweddion iaith yn llunio ystyr a dangos dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau a materion sy'n sail i ddefnydd iaith.
Uned 2: Arholiad ysgrifenedig allanol (tymor yr haf): 2 awr
Materion iaith ac Ysgrifennu Gwreiddiol a Beirniadol
Yn yr arholiad hwn ceir dau gwestiwn. Rhaid i ymgeiswyr ddewis cwblhau naill ai Cwestiwn 1 neu Gwestiwn 2. Ym mhob cwestiwn mae tair rhan:
Rhan a: Materion Iaith:
Mae’r rhan hon yn seiliedig ar astudio dau faes pwnc iaith: iaith a phŵer, ac iaith a sefyllfa. Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu ymateb estynedig (traethawd) ble byddant yn dangos eu gwybodaeth o faterion iaith, gan ddefnyddio terminoleg addas i archwilio sut i greu ystyr. Bydd angen i fyfyrwyr arddangos eu dealltwriaeth o gysyniadau a materion trwy ddadansoddi a gwerthuso sut mae ffactorau cyd-destunol a nodweddion iaith yn llunio ystyr. Mae angen i’r ymateb arddangos defnydd o derminoleg gywir, gyda chefnogaeth gadarn a hefyd yn gallu arddangos mynegiant ysgrifenedig clir mewn ymateb trefnus.
Rhan b: Ysgrifennu gwreiddiol:
Gofynnir i ymgeiswyr gynhyrchu darn gwreiddiol o waith ysgrifennu yn gysylltiedig i bwnc iaith maent wedi ei ystyried yn Rhan a. Mae hyn yn darparu cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu'n greadigol yn defnyddio eu gwybodaeth iaith. Felly bydd ymgeiswyr angen ymwybyddiaeth o gynulleidfa, ffurf a diben eu darn creadigol.
Rhan c: Ysgrifennu beirniadol:
Bydd ymgeiswyr yn cynhyrchu sylwebaeth ar eu hysgrifennu. Byddant yn dadansoddi a gwerthuso eu dewisiadau iaith eu hunain i ddangos eu dealltwriaeth o’u maes pwn dewisol. Mae angen i ymgeiswyr ddefnyddio dyfyniadau addas wrth ddadansoddi a gwerthuso eu nodweddion iaith yn feirniadol, er mwyn cyflawni effeithiau penodol.
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Rwy'n edrych ymlaen at y cam nesaf a gwneud cais i astudio yn y brifysgol."
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: