Economeg - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Economeg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o ficro-economeg a macro-economeg, a fydd yn datblygu dealltwriaeth o gysyniadau a theorïau economaidd, trwy ystyried materion, problemau a sefydliadau economaidd sy'n effeithio ar fywyd pob dydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd eang. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso cysyniadau a theorïau economaidd yn defnyddio amrediad eang o gyd-destunau ac i werthfawrogi eu gwerth a chyfyngiadau o ran esbonio ffenomena byd go iawn. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu gwerthfawrogiad o natur gymhleth a rhyngberthynol economeg a sgiliau dadansoddol a meintiol wrth ddethol, dehongli a defnyddio data priodol o amrywiaeth o ffynonellau. Yn ogystal, bydd cyfle i ddisgyblion ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion economaidd cyfoes sy'n berthnasol i economi Cymru a chael dealltwriaeth o hanes economaidd diweddar Cymru gan ddefnyddio gwybodaeth sy'n hygyrch i’r cyhoedd. Yn olaf, bydd disgyblion yn astudio rôl marchnadoedd a’r modd mae llywodraethau yn ceisio eu rheoli.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae’r cwrs yn trafod dwy uned:
UG Uned 1: Cyflwyniad i Egwyddorion Economaidd
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud (15% o gymhwyster Safon Uwch - 55 marc)
Cwestiynau amlddewis a strwythuredig.
UG Uned 2: Economeg ar Waith
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr (25% o gymhwyster Safon Uwch - 80 marc)
Cwestiynau ymateb data gofynnol.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg, o leiaf: B Saesneg Iaith, o leiaf: B
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
"Roedd athrawon Coleg Caerdydd a’r Fro a’r cyfleusterau bob amser ar gael i mi a oedd o gymorth mawr yn ystod tymor yr arholiadau, ac fe helpodd fi i ennill y graddau yma.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Rheoli Busnes
- Economaidd
- Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
- TG
- Mathemateg
- Arolygu Meintiau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu