Drama - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Drama ac Astudiaethau Theatr Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae Drama ac Astudiaethau Theatr Safon UG wedi ei gynllunio i ehangu profiad, datblygu dychymyg, wrth feithrin creadigrwydd a datblygiad personol a chymdeithasol. Mae’n allweddol fod unrhyw fyfyriwr sydd eisiau astudio drama ar y lefel hon yn ymroddedig a brwdfrydig iawn, yn barod i roi amser ac ymdrech ychwanegol i mewn er mwyn cwblhau’r darllen cefndirol ac i ymarfer ar gyfer yr asesiad ymarferol.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:
UG Uned 1: Gweithdy Theatr
Asesiad nad yw’n arholiad: asesir yn fewnol (24% o gymhwyster Safon Uwch, 90 marc)
Rhaid i fyfyrwyr gymryd rhan mewn creu, datblygu a pherfformio darn o theatr yn seiliedig ar ail ddehongliad darn o destun a ddetholwyd o restr a gyflenwyd gan CBAC.
Rhaid datblygu'r darn yn defnyddio technegau a dulliau gweithio naill ai ymarferydd theatr dylanwadol neu gwmni theatr cydnabyddedig.
Rhaid i fyfyrwyr gynhyrchu:
- Sylweddoliad o'r perfformiad neu ddyluniad
- Cofnod creadigol
- Gwerthusiad
UG Uned 2: Testun mewn Theatr
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud (16% o gymhwyster Safon Uwch, 60 marc)
Llyfr agored: Rhaid mynd â chopïau glân o’r testun cyflawn i'r arholiad.
Bydd yr arholiad yn cynnwys cyfres o gwestiynau yn seiliedig ar un testun perfformiad o restr a ddarperir gan CBAC.
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau parhaus yn cynnwys gwaith cwrs ac arholiad ymarferol
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“O ran y cyfleoedd atgyfnerthu mae'r coleg wedi'u cynnig i mi cefais weithio ar ddwy ffilm fer. Cawsant eu darlledu ar BBC Two roedd hynny'n brofiad gwych. Ac rwyf hefyd wedi cael cymarth yn fy mhroses ymgeisio i fynd i ysgol haf yn ninas efrog newydd, lle byddaf yn astudio blwyddyn nesaf am ddau fis sy'n wallgof.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Celf
- Drama
- Chwaraeon
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu