Drama - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae hwn yn gwrs astudio blwyddyn a dylid ymgymryd â hwn ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Mae'n bosibl y gellid ymgymryd â'r cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser. Mae'r cwrs hwn yn ddilyniant i'r cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr UG.
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae'r cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr U yn mynd i'r afael â'r ddwy uned ganlynol:
UNED 3: Archwilio Perfformiad Dramatig - 40% (Gwaith Cwrs ac Arholiad Perfformio ym mis Rhagfyr) Bydd myfyrwyr yn cynllunio, ysgrifennu a pherfformio darn gwreiddiol o theatr, ar sail symbyliad gosodedig. Bydd myfyrwyr yn cadw cofnod strwythuredig o'r broses gyfan gan gynnwys y perfformiad a'r ymatebion gan y gynulleidfa.
UNED 4: Testun Theatr mewn Cyd-destun - 60% (Arholiad Ysgrifenedig) Theatrau Groegaidd Cynnar a Shakespearaidd - bydd myfyrwyr yn dysgu'r arddull theatr ar gyfer bob cyfnod a drama a sut mae gwahanol gyfarwyddwyr wedi'u cynhyrchu ers hynny. Byddant hefyd yn archwilio i'w syniadau ei hunain ynglŷn â chyfarwyddo'r dramâu hyn. Dyma'r testunau a astudir: Lysistrata gan Aristophanes a Romeo & Juliet gan Shakespeare.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“O ran y cyfleoedd atgyfnerthu mae'r coleg wedi'u cynnig i mi cefais weithio ar ddwy ffilm fer. Cawsant eu darlledu ar BBC Two roedd hynny'n brofiad gwych. Ac rwyf hefyd wedi cael cymarth yn fy mhroses ymgeisio i fynd i ysgol haf yn ninas efrog newydd, lle byddaf yn astudio blwyddyn nesaf am ddau fis sy'n wallgof.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Celf
- Drama
- Chwaraeon
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu