Y Clasuron – UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs un flwyddyn yw Gwareiddiad Clasurol Lefel UG, sy’n cynnwys astudio elfen lenyddol ac elfen hanesyddol. Nid yw gwybodaeth flaenorol o’r byd clasurol yn ofynnol a bydd yr holl destunau’n cael eu hastudio wedi eu cyfieithu (Saesneg).

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio:

Cynnwys y Cwrs Uned 1: Byd yr Arwr

Dyma elfen orfodol sy’n cynnwys astudiaeth drylwyr o Iliad, Homer wedi ei gyfieithu. Bydd myfyrwyr yn astudio themâu yn ogystal â chyd-destun hanesyddol y naratif, yn benodol ‘realiti hanesyddol’ Rhyfel Caerdroea. Gan fod hwn yn fodiwl llenyddol, bydd themâu allweddol y testun yn cael eu hastudio: Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Bri
  • Y Cod Arwrol a’i effaith ar y rhai hynny o statws uchel ac isel
  • Gorfoledd a Chywilydd
  • Cariad a Pherthnasoedd Teuluol, Pŵer, Dicter a Llid
  • Y berthynas rhwng y Marwolion a’r Anfarwolion
  • Rôl Tynged a Ffawd
  • Marwolaeth a Marwoldeb
  • Merched a’u rôl mewn cymdeithas

Uned 2: Cynnwys Diwylliant a’r Celfyddydau

Mae’r ail fodiwl a elwir yn ‘Delwedd Ymerodrol’ yn canolbwyntio ar y cysyniad o ‘sbin gwleidyddol’.

Wrth ddilyn hynt a helynt gyrfa Octavian, etifedd Julius Caesar, mae’r modiwl hwn yn asesu sut adeiladodd Octavian Ymerodraeth o ddistyw’r Rhyfel Cartref Gweriniaethol. Ymhlith y meysydd astudio mae:

  • Y buddion i Octavian o gysylltu ei hun â Julius Caesar a’r awgrym bod Octavian yn ‘Dduw’.
  • Y peryglon posibl o gysylltu â Julius Caesar a sut aeth Awgwstws ati i bellhau ei hun oddi wrth agweddau problemus delwedd gyhoeddus Julius Caesar.
  • Chwedlau am Gwymp Sadwrn o Olympus Octavian fel Achubwr y Weriniaeth. 

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F57
L3

Cymhwyster

OCR TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Dinasyddiaeth Glasurol

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Rydw i’n bendant yn credu bod y Coleg wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu cefnogol a gwych. Rydw i wedi mwynhau astudio fy holl gyrsiau yn fawr. Rydw i'n credu ei fod yn amgylchedd braf iawn i astudio ynddo.”

Oscar Griffin
Astudio cyrsiau Safon Uwch yn y Clasuron, Llenyddiaeth Saesneg a Hanes

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Clasuron
  • Hanes
  • Y Gyfraith
  • Athroniaeth
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Diwinyddiaeth 

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE