Cemeg - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Cemeg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r cwrs hefyd ar gael fel dosbarth nos.
Nodau'r cymhwyster Cemeg UG hwn yw annog myfyrwyr i:
- Ddatblygu eu diddordebau yn, a brwdfrydedd tuag at Gemeg, gan gynnwys datblygu diddordeb mewn astudiaeth bellach a gyrfaoedd mewn Cemeg
- Gwerthfawrogi sut mae cymdeithas yn gwneud penderfyniadau ynghylch materion gwyddonol a sut mae’r gwyddorau yn cyfrannu i lwyddiant yr economi a chymdeithas
- Datblygu ac arddangos gwell dealltwriaeth o’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ran Sut mae Gwyddoniaeth yn Gweithio
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o wahanol feysydd o Gemeg a sut maent yn berthnasol i’w gilydd
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae’r cwrs yn trafod dwy uned:
UNED CH1 – Rheoli a Defnyddio Newidiadau Cemegol (er mwyn gwneud pethau, cynhyrchu egni a datrys problemau amgylcheddol).
Dechreua’r uned hon gyda rhai syniadau sylfaenol pwysig ynghylch atomau a defnyddio’r cysyniad môl mewn cyfrifiadau.
Yna fe astudir y tair egwyddor allweddol sy’n llywodraethu newid cemegol:
- Safle cydbwysedd rhwng adweithyddion a chynnyrch
- Y newidiadau egni sy'n gysylltiedig ag adwaith cemegol
- Y gyfradd ble bydd adweithiau yn digwydd
Yna bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso i broblemau pwysig ym meysydd synthesis cemegol, caffael egni a chynnal a chadw’r amgylchedd.
UNED CH2 - Priodweddau, Strwythur a Bondio
Mae’r uned hon yn edrych ar:
- Bondio Cemegol
- Grymoedd rhwng molecylau
- Siapiau molecylau
- Hydoddedd cyfansoddion mewn dŵr
- Y Tabl Cyfnodol
- Tueddiadau ym mhriodweddau’r elfennau
- Cyfansoddion Organig a’u hadweithiau
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg: B B mewn Cemeg neu Uwch neu BB yn y Dyfarniad Dwbl
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad ymarferol
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Rydw i wir wedi mwynhau fy amser yn CAVC yn fawr. Rydw i'n teimlo mai hwn oedd y dewis iawn i mi yn bendant. Fe wnes i fwynhau'r rhaglen Ysgolheigion yn fawr iawn - roedd nifer y cyfleoedd gawson ni’n anhygoel, fel mynd i gystadleuaeth STEM a gynhaliwyd gan brifysgol.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Gwyddorau Biofeddygol
- Biocemeg
- Peirianneg Gemegol
- Deintyddiaeth
- Dieteteg
- Gwyddorau Daear
- Gwyddorau Amgylcheddol
- Daeareg
- Gwyddorau Meddygol
- Meddygaeth
- Optometreg
- Fferylliaeth
- Ffisiotherapi
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu