Cemeg - A2
Ynghylch y cwrs hwn
Mae’r rhaglen Cemeg A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Gall cymhwyster mewn Cemeg arwain at gwrs addysg uwch mewn Cemeg, Peirianneg neu bynciau eraill cysylltiedig â gwyddoniaeth/technoleg, neu at gyflogaeth ble byddai dealltwriaeth o Gemeg yn ddefnyddiol.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae A2 Cemeg yn cwmpasu'r unedau canlynol:
Uned 3 Cemeg Ffisegol ac Anorganig
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud (80 marc) 25% o’r cymhwyster.
Amrywiaeth o gwestiynau ateb byr, strwythuredig ac ymateb estynedig.
Uned 4 Cemeg Organig a Dadansoddi
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud (80 marc) 25% o’r cymhwyster.
Amrywiaeth o gwestiynau ateb byr, strwythuredig ac ymateb estynedig.
Uned 5 Ymarferol
(60 marc) 10% o’r cymhwyster. Mae'r uned hon yn cynnwys dwy dasg:
Tasg Arbrofol (30 marc)
Dulliau Ymarferol a Thasg Ddadansoddol (30 marc)
Sylwer y byddai'r 40% sy'n weddill o’r marciau sydd ar gael wedi eu parhau o Gemeg UG.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Arholiad : £60.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £473.00
Gofynion mynediad
Bodlonir y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs dilyniant ac rydych wedi gorffen eich cwrs cyfredol yn llwyddiannus.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
“Rydw i wir wedi mwynhau fy amser yn CAVC yn fawr. Rydw i'n teimlo mai hwn oedd y dewis iawn i mi yn bendant. Fe wnes i fwynhau'r rhaglen Ysgolheigion yn fawr iawn - roedd nifer y cyfleoedd gawson ni’n anhygoel, fel mynd i gystadleuaeth STEM a gynhaliwyd gan brifysgol.”
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Gwyddorau Biofeddygol
- Biocemeg
- Peirianneg Gemegol
- Deintyddiaeth
- Dieteteg
- Gwyddorau Daear
- Gwyddorau Amgylcheddol
- Daeareg
- Gwyddorau Meddygol
- Meddygaeth
- Optometreg
- Fferylliaeth
- Ffisiotherapi
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu