Diploma Cyfryngau Digidol mewn Newyddiaduraeth CTEC - Blwyddyn 2
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cymhwyster lefel 3 BTEC unigryw hwn ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau â'u haddysg drwy ddysgu cymhwysol gyda'r bwriad o symud at addysg uwch a/neu gyflogaeth. Mae llwybrau cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys newyddiaduriaeth, cynhyrchu cyfryngau a chyhoeddi. Bydd y cwrs yn cyflwyno arferion cyfryngau digidol ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy ac uwch sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan brifysgolion a chyflogwyr.
Mae’r cwrs yn gyfwerth â dau gymhwyster Safon Uwch a bydd yn cael ei ddilyn ochr yn ochr â chymhwyster Safon Uwch arall neu gymwysterau BTEC.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae’r Diploma yn cynnwys 13 uned (720 credyd) dros 2 flynedd - mae 5 ohonynt yn orfodol:
- Uned 1: Cynnyrch Cyfryngau a Chynulleidfaoedd (Arholiad a Asesir yn allanol: 90 GLH)
- Uned 2: Cyn-gynhyrchu a Chynllunio (Arholiad a Asesir yn allanol: 90 GLH)
- Uned 3: Cynhyrchu cynnyrch cyfryngau (Asesiad Mewnol: 60 GLH)
- Uned 4: Cynnyrch Cyfryngau Rhyngweithiol (Asesiad Mewnol: 60 GLH)
- Uned 6: Cyfryngau Cymdeithasol a Globaleiddio (Arholiad a Asesir yn Allanol: 60 GLH)
Mae pob un o’r unedau opsiynol werth 60 neu 30 GLH. Bydd yr Unedau canlynol yn cael eu hastudio:
- Uned 7: Newyddiaduraeth a'r diwydiant newyddion (Asesiad Mewnol: 60 GLH)
- Uned 8: Ffotograffiaeth ar gyfer cynnyrch cyfryngau digidol (Asesiad Mewnol: 60 GLH)
- Uned 9: Comics ac adrodd straeon drwy nofel graffig (Asesiad Mewnol: 60 GLH)
- Uned 10: Creu animeiddiad digidol (Asesiad Mewnol: 60 GLH)
- Uned 13: Dylunio Graffeg ar gyfer cynnyrch cyfryngau digidol (Asesiad Mewnol: 30 GLH)
- Uned 21: Cynllunio a Chyflwyno Cyflwyniad (Asesiad Mewnol: 30 GLH)
- Uned 23: Creu proffil cyfryngau personol (Asesiad Mewnol: 30 GLH)
- Uned 24: Ymwybyddiaeth o ddiwydiant traws gyfryngau (Asesiad Mewnol: 30 GLH)
Gofynion mynediad
Mae TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg yn ddymunol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Bydd y cwrs yn darparu cyflwyniad sylfaenol i'r system gyfreithiol, ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy a threfn uwch sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan brifysgolion a chyflogwyr.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu